Caerloyw'n diswyddo Nigel Davies

Nigel Davies Image copyright Getty Images
Image caption Bu Nigel Davies wrth y llyw gyda'r Scarlets am bedair blynedd cyn symud i Gaerloyw

Mae cyn hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies wedi cael ei ddiswyddo gan glwb Caerloyw yn Uwchgynghrair rygbi Lloegr.

Cafodd cyn canolwr Cymru, 49 oed, ei benodi i'r swydd yn 2012 ar ôl pedair blynedd wrth y llyw yn Llanelli.

Yn ei dymor cyntaf yn Kingsholm fe orffennodd Caerloyw yn bumed yn y tabl, ond bu'n stori wahanol y tymor hwn.

Gorffennodd Caerloyw yn nawfed ar ôl colli eu gêm olaf i Gaerwrangon, oedd eisoes yn gwybod y bydden nhw'n disgyn o'r Uwchgynghrair.

Mewn datganiad dywedodd prif weithredwr Caerloyw, Stephen Vaughan: "Roedd hwn yn benderfyniad anodd iawn i'w wneud.

"Mae Nigel yn ddyn yr wyf wedi dod yn hoff iawn ohono ac yn ei barchu.

"Fodd bynnag mae'r perfformiadau a'r canlyniadau yn ystod tymor 2013-14 wedi bod yn siom fawr i bawb yn y clwb.

"O ganlyniad mae'r bwrdd wedi penderfynu y bydd dyfodol y clwb yn fwy llewyrchus gyda rhywun arall yng ngofal y tîm."