Pigion y Penwythnos: 09-11 Mai

Bob Dydd Llun bydd BBC Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau'r penwythnos ac ambell i bwt doniol ac anarferol gafodd ei gynnwys yn y llif byw dros y dyddiau diwethaf.

Cofiwch ychwanegu bbc.co.uk/cymrufyw at eich ffefrynnau (bookmarks) ar eich cyfrifiadur, dabled neu ffôn symudol.

Dyma i chi rai o'r pethau wnaeth dynnu ein sylw dros y tridiau ddiwethaf.

  • Dros y penwythnos awgrymodd perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan, ei fod yn ystyried newid lliw crysau'r tîm yn ôl i las. Ond mewn cyfweliad gyda WalesOnline, dywedodd y dyn busnes o Malaysia y byddai'n rhaid i'r amodau fod yn iawn cyn i hynny ddigwydd.
Image caption Tan yn barod i gyfaddawdu?
Image copyright Mark James
Image copyright S4C