Ail-greu terfysg Merched Beca i nodi 175 mlynedd

Efailwen
Image caption Daeth tua 25 o drigolion lleol i fod yn rhan o'r ailgread

Fe gafodd tollborth ffug ei ddinistro mewn pentref yn Sir Gâr nos Fawrth i gofio 175 mlynedd ers terfysg Merched Beca.

Fe ledaenodd protestio ledled ardaloedd gwledig gorllewin Cymru rhwng 1839 a 1843 - wrth i ddynion wedi eu gwisgo fel merched ymgyrchu yn erbyn tlodi ac anghyfiawnder.

Arweiniodd yr ymgyrch at ddiwygio'r tollau am ddefnyddio ffyrdd a chyfreithiau eraill oedd yn effeithio ar y tlawd.

Fe ddywedodd trigolion Efailwen eu bod nhw'n awyddus i ddathlu'r achlysur.

Anghyfiawnder

Fe ddechreuodd y terfysg yn dilyn nifer o achosion o anghyfiawnder yn erbyn tenantiaid y ffermydd a'u teuluoedd - pris rhent, a chyfran o'u henillion yn mynd i'r eglwys, hyd yn oed os oedd y teulu'n gapelwyr.

Pan gafodd y tollborthau eu sefydlu i godi tâl ar bobl am ddefnyddio ffyrdd, fe gafodd y terfysg ei sbarduno.

Thomas Rees, neu Twm Carnabwth, arweiniodd yr ymosodiad cyntaf ar dollborth Efailwen ar 13 Mai 1839, wedi ei wisgo mewn wig a gwn nos menyw, gan liwio'i wyneb yn ddu.

Image caption Roedd rhai o'r dynion yn ddigon i godi ofn ar unrhyw un

Dywedodd Tudur Lewis, ei fod e a'i frawd, Eurfyl wedi penderfynu ail-greu'r digwyddiad wedi iddyn nhw sylweddoli bod y pen-blwydd eleni'n un arbennig.

Image copyright Expired
Image caption Fe ymddangosodd y llun hwn o'r terfysg yn yr Illustrated London Press yn 1843

'Rêl dihiryn'

"Dyma'r unig ddarn o hanes yn ein hardal ni - mae pobl yn dal i siarad am y peth nawr. Mae'r ysgol lleol, fy nhŷ i, y caffi a'r becws lleol i gyd wedi eu henwi ar ôl Beca, er cof am y terfysg," meddai.

"Roedd fy nhad-cu'n perthyn i Thomas Rees - fe ddywedodd e ei fod e'n rêl dihiryn, a doedd neb yn ei hoffi e.

"Ond roedd e'n gymaint o tough guy, wnaeth neb achwyn amdano gan fod ganddyn nhw ofn.

"Roedd hi'n amser caled i ffermwyr - doedd neb yn berchen ar eu tir, roedden nhw'n rhentu gan dir-feddiannwyr cyfoethog, a'r tollbyrth yn cymryd hyd yn oed mwy o arian ganddyn nhw.

"Pe na fyddai'r terfysgwyr wedi sefyll lan dros y gymuned, fe fyddai bywyd wedi bod llawer yn galetach."

Perfformio cân

Fe wnaeth oddeutu 25 o bobl wisgo fel terfysgwyr i ddathlu'r pen-blwydd y tu allan i Gaffi Beca yn Efailwen nos Fawrth.

Bu plant o Ysgol Gynradd Beca yn perfformio cân am y digwyddiad sydd wedi ei hysgrifennu gan Tecwyn Ifan, yn rhan o Noson Lawen yn y caffi i ddathlu.

Mae'r enw Beca yn gyfeiriad Beiblaidd yn ôl haneswyr, ond mae ambell un yn honni mai Rebecca oedd llysenw Thomas Rees, gan mai dyna enw'r fenyw oedd yn rhoi benthyg ei dillad iddo.

Straeon perthnasol