Tân: Dynes oedrannus wedi marw

Mae dynes oedrannus wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yn Sir Gaerffili.

Fe gafodd diffoddwyr eu galw i'r mewn tŷ ym Mhontllanfraith tua 2pm dydd Mawrth.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod diffoddwyr wedi achub y ddynes ond iddi farw yn ddiweddarach.

Bydd arbenigwyr yn dechrau ymchwilio i achos y tân dydd Mercher.