Hampshire yn curo Morgannwg o 6 wiced

Hampshire v Morgannwg Image copyright Getty Images

Mae Morgannwg wedi colli eu gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Siroedd wrth i Hampshire eu curo o chwe wiced.

Dim ond dau rediad lwyddodd y Cymry i ychwanegu at eu cyfanswm o 185-9 dros nos, cyn i Tom Helm gael ei ddal oddi ar fowlio James Tomlinson (3-40).

Gyda tharged o ddim ond 67, roedd rhaid i Hampshire weithio am y fuddugoliaeth, yn dilyn perfformiad da gan fowliwr ifanc Morgannwg, Ruaidhri Smith (3-38).

Bowliodd Jimmy Adams ar ei bêl gyntaf, ac yna cymryd wicedi Michael Carberry a Liam Dawson yn yr un belawd, cyn i Hampshire gyrraedd 68-4.

Gareth Rees gymrodd y bedwaredd wiced, wrth i Will Smith gael ei ddal gan Stewart Walters am wyth rhediad.

Roedd Walters eisoes wedi deifio i ddal Carberry a chymryd ei wiced am 14 rhediad.

James Vince orffennodd gyda'r ffigyrau gorau i Hampshire, gan daro tair 4 mewn pelawd i orffen y gêm ar 29 heb fod allan.

Dyma ail fuddugoliaeth Hampshire y tymor hwn, ac maen nhw nawr 11 pwynt yn glir o Swydd Gaerwrangon ar frig yr ail adran, gyda Morgannwg yn drydydd.

Hampshire 345 & 68-4 wedi curo Morgannwg 224 & 187 o chwe wiced.

Straeon perthnasol