Priestland i fethu taith yr haf gydag anaf

Rhys Priestland Image copyright Huw Evans picture agency

Bydd maswr Cymru a'r Scarlets, Rhys Priestland yn methu taith Cymru i Dde Affrica yn yr haf oherwydd anaf.

Anafodd Priestland ei benglin yn gem olaf y Scarlets y tymor hwn yn erbyn y Gleision.

Bydd Priestland nawr yn cael llawdriniaeth ar yr anaf, a ni fydd yn chwarae eto tan fis Awst.

Y maswr yw'r 10fed chwaraewr i dynnu yn ôl o garfan Warren Gatland oherwydd anafiadau.

Yn ogystal â Priestland, bydd rhaid gwneud heb nifer o chwaraewyr gan gynnwys Sam Warburton, Leigh Halfpenny a Richard Hibbard.

Priestland oedd dewis cyntaf Gatland ar gyfer y crys rhif 10 ar ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond collodd ei le i Dan Biggar erbyn diwedd y gystadleuaeth.

Mae'n debyg mai Biggar fydd y dewis cyntaf ar y daith dros yr haf.

Mae Cymru yn chwarae'r Springboks ar Fehefin 14 a 21.

Bydd gem brawf yn cael ei gynnal rhwng y timau Tebygol a Phosib cyn i Gatland gyhoeddi ei garfan ar Fai 30.

Straeon perthnasol