Wythnos y We: 12-16 Mai

Bob dydd Gwener bydd BBC Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar rai o'r straeon a digwyddiadau gafodd sylw ar y llif byw yn ystod yr wythnos.

Cofiwch ychwanegu bbc.co.uk/cymrufyw at eich ffefrynnau (bookmarks) ar eich cyfrifiadur, dabled neu ffôn symudol.

Dydd Llun, Mai 12

Er bod rhai wedi ysgrifennu am elfen gerddorol prosiect amlgyfrwng Gruff Rhys, 'American Interior', mae Lowri Haf Cooke wedi cyhoeddi adolygiad o'r ffilm sy'n rhan o'r prosiect sy'n olrhain hanes yr anturiaethwr John Evans, gwas fferm o Gymru.

Dywedodd Lowri: "Nid doli glwt o gydymaith mo Evans yn y ffilm hon ond 'voodoo doll' llawn daioni sy'n cipio'r galon a chodi gwên, gan uno holl elfennau'r cynhyrchiad ynghyd."

Gallwch ddarllen yr adolygiad llawn ar flog Lowri, Merch y Ddinas.

Dydd Mawrth, Mai 13

Mae Cara Braia, 21 o Gricieth sy'n fyfyrwraig Astudiaethau Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor wedi ennill cystadleuaeth ar-lein am ail-ddehongli un o ganeuon The Kinks ac ar fin hedfan i Los Angeles i hyrwyddo ei gyrfa. Gallwch weld y stori lawn ar wefan Prifysgol Bangor. Mae gan Cara wefan Soundcloud sy'n cynnwys rhai o'i chaneuon.

Image copyright Cra Braia

Dydd Mercher, Mai 14

Mae Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) wedi ennill y Wobr Opera a Theatr Gerddoriaeth am yr operâu Lulu, Lohengrin a Paul Bunyan. Mae'r wobr gan y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol yn cael ei roi i'r cwmni lwyddodd i ddarparu'r cynhyrchiadau gorau o ran cerddoriaeth a chelf.

Dywedodd y Prif Weithredwr a chyfarwyddwr artistig OCC, David Poutney:

"Rydym yn ofnadwy o falch o dderbyn hon, y wobr fwya' nodedig o'r holl wobrau cerddorol."

Image copyright CLIVE BARDA
Image caption Perfformiad o Lulu gan Opera Cenedlaethol Cymru

Dydd Iau, Mai 15

Mae Dylan Llyr wedi cael ei ysgogi i ddarllen rhai o gerddi Syr T H Parry-Williams ar ôl bod yn darllen cyfrol Angharad Price, Ffarwél i Freiburg, sydd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2014.

Ar ei flog Anffyddiaeth mae'n trafod y gerdd Dychwelyd ac yn anghytuno gyda nifer o feirniaid sy'n ei weld fel prawf o ffydd y bardd yn Nuw. Ydych chi'n cytuno efo Dylan?

Dydd Gwener, Mai 16

Yn ei flog diweddaraf mae Rhys Mwyn yn adolygu gig yn Galeri neithiwr lle oedd 9bach a Plu ymhlith y perfformwyr.

Image copyright Dyfrig
Image caption Lisa Jên Brown, prif leisydd 9Bach