Pigion y Penwythnos: 16-18 Mai

Bob Dydd Llun bydd BBC Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar rai o ddigwyddiadau'r penwythnos.

Cofiwch ychwanegu www.bbc.co.uk/cymrufyw at eich ffefrynnau (bookmarks) ar eich cyfrifiadur, dabled neu ffôn symudol.

Dyma i chi rai o'r pethau wnaeth dynnu ein sylw dros y tridiau diwethaf.

Image copyright AP
Image caption Aaron Ramsey ar dân yn Wembley
  • Roedd y Ddraig Goch yn amlwg yn Wembley ddydd Sadwrn wrth i'r Cymro Aaron Ramsey sgorio'r gôl fuddugol i Arsenal wrth iddyn nhw guro Hull yn rownd derfynol Cwpan Lloegr. Roedd Hull ddwy gôl ar y blaen ar un adeg gyda James Chester, chwaraewr arall o dras Cymreig, ymhlith y sgorwyr. Wyddoch chi mai hwn oedd y tro cyntaf i ddau Gymro sgorio yn y rownd derfynol? Mi fedrwch chi weld oriel luniau o Aaron Ramsey a'i dîm yn dathlu ar wefan WalesOnline

Pigion y Penwythnos: 16-18 Mai

  • Fe enillodd Doctor Who, sydd yn cael ei chynhyrchu gan BBC Cymru, anrhydedd arbennig yn seremoni wobrwyo'r BAFTAS teledu nos Sul. Cafodd y raglen wobr y 'Radio Times'. Roedd yna lawer o sylw ar y noson hefyd i'r cyfarwyddwr Euros Lyn. Cafodd ei waith ar gyfresi drama Broadchurch a Last Tango in Halifax ei gydnabod gan yr enillwyr. Mi gewch chi ragor o fanylion am yr enillwyr ar wefan BAFTA.
Image copyright Hefin Owen
Image caption Y nofwyr dewr yn Llyn Padarn