Enwi'r dyn wnaeth farw yn Llyn Tegid

Hofrennydd. LLUN EVAN L DOBSON Image copyright Evan L Dobson
Image caption Cafodd y gwasanaethau brys eu galw brynhawn Sadwrn

Mae ymchwiliad wedi dechrau i farwolaeth Paul Davies aeth i drafferthion pan oedd o mewn caiac ar Lyn Tegid.

Cafodd corff y dyn 34 oed o Runcorn ei ddarganfod ddydd Sul gan aelodau o'r tîm chwilio tanddwr.

Roedd y caiac wedi troi drosodd brynhawn Sadwrn.

Llwyddodd dau arall oedd yn y caiac - dyn arall a phlentyn - i gyrraedd y lan ac fe gafon nhw'u cludo i Ysbyty Maelor Wrecsam.

Dyw'r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus ond mi fydd swyddogion yn cynnal ymchwiliadau ar ran y crwner a bydd ffeil yn cael ei chyflwyno.

Straeon perthnasol