Rhestr lawn anrhydeddau'r Orsedd

Gorsedd
Image caption Bydd y seremoni'n digwydd ar ddydd Gwener olaf Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr

Mae rhestr lawn o'r Cymry fydd yn cael eu hanrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yr haf yma bellach wedi ei chyhoeddi.

Mi fydd pob aelod yn ymaelodi â'r Orsedd fel Derwydd yn ystod y seremoni ar Faes yr Eisteddfod ar fore Gwener ola'r ŵyl.

Mae dwy wobr wahanol yn cael eu rhoi - y Wisg Las am bobl sydd wedi llwyddo ym meysydd y gyfraith, chwaraeon, newyddiaduraeth, y cyfryngau neu weithgareddau eraill.

Y rhai sydd wedi rhoi cyfraniad arbennig i fyd y celfyddydau sy'n derbyn y Wisg Werdd, yn benodol y rheiny sydd wedi rhagori mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth, drama neu gelf.

Bydd enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts bob blwyddyn ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd hefyd yn derbyn y Wisg Werdd.

Dim ond enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol sy'n cael eu hurddo i'r Wisg Wen.

Gwisg Las

Image caption Aelodau o'r Orsedd yn y Wisg Las

Charles Arch o Bontrhydfendigaid oedd Prif sylwebydd Sioe Amaethyddol Cymru am 30 mlynedd, ac mae hefyd wedi gweithio fel trefnydd mudiad y Ffermwyr Ifanc ym Maldwyn. Mae wedi ysgrifennu dwy gyfrol, Byw dan y Bwa ac O'r Tir i'r Tŵr.

Mae Hywel Wyn Bowen, perchennog Siop y Cennen yn Rhydaman, yn athro mewn ysgolion Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r Betws. Roedd hefyd yn un o gyd-sylfaenwyr Clwb Gwerin y Cnape.

Daw Duncan Brown o Waunfawr, ger Caernarfon, ac mae'n adnabyddus am ei wybodaeth eang o fyd natur a'i arloesedd yn y maes hwnnw.

Mae Arfon Haines Davies o Gaerdydd yn wyneb adnabyddus gan iddo weithio fel cyflwynydd ar HTV ac S4C yn ystod gyrfa hir. Mae hefyd wedi gweithio gyda sawl elusen.

Mae Aled Siôn Davies yn athletwr llwyddiannus, ac fe lwyddodd i ennill y Fedal Aur yng nghamp y ddisgen yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012.

Mae Elwen Mair Evans o Ddyffryn Clwyd yn wreiddiol ac mae hi'n adnabyddus fel bargyfreithiwr sydd wedi gweithio ar sawl achos amlwg.

Mae Harold Evans yn cael ei anrhydeddu am ei waith diflino dros yr iaith dros y blynyddoedd. Bu'n gweithio fel colofnydd a gohebydd i'r Western Mail ac mae wedi cyhoeddi llyfr am yr aelodau o Goleg Llanymddyfri a fu farw yn y Rhyfel Mawr.

Trevor Adrian Evans o Gaerfyrddin yw Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn 2014. Ei swydd dydd-i-dydd yw pennaeth busnes a gweithgareddau Theatr Genedlaethol Cymru ac mae'n cymryd rhan mewn nifer o gymdeithasau'n lleol.

Mae Anita Humphreys o Frynaman Isaf yn cael ei anrhydeddu am ei gwaith yn cefnogi diwylliant Cymraeg yn ei hardal dros y blynyddoedd. Bu'n aelod o sawl côr ac mae hi wedi gweithio i'r papur bro, Bro Tawe yn ogystal ag Aelwyd Amanw a Chymdeithas Capeli Brynaman.

Mae Esme Jones o Grug-y-bar, Sir Gâr wedi cyfrannu at weithgareddau pobl ifanc yn ei hardal, fel gwirfoddolwr ac fel athrawes.

Mae Margaret Tudor Jones yn wreiddiol o Ddolgelynnen, Machynlleth ond mae hi'n byw yn Llundain ers blynyddoedd, lle mae hi'n weithgar o fewn y gymuned Gymraeg. Mae hi hefyd yn un o ymddiriedolwyr Gŵyl Machynlleth yn y Tabernacl a goruchwyliodd ddatblygiad yr Oriel Gelf yn y Canolbarth.

Fe wnaeth Stephen Jones gynrychioli Cymru 104 o weithiau yn ystod ei yrfa rygbi lwyddiannus. Mae'n cael ei urddo am ei gefnogaeth i'r iaith yn ogystal â'r hyn a gyflawnodd ar y caeau rygbi.

Tegwen Morris o Aberystwyth yw cyfarwyddwr Merched y Wawr. Yn ogystal â'i gwaith gyda'r sefydliad, mae'n gweithio'n galed dros yr iaith yn y gymuned.

Mae Beryl Richards, Llanddarog, wedi gwneud llawer dros y Gymraeg yn ei hardal. Mae hi wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau Côr Llanddarog a'r Cylch, Sioe Amaethyddol Cymru, y Clwb Ffermwyr Ifanc a Neuadd Gymunedol Llanddarog.

Mae Arwel Roberts o Ruddlan wedi gwneud llawer tros yr iaith yn ei ardal ac mae'n un sy'n trefnu taith flynyddol i'r Ŵyl Pan Geltaidd yn Iwerddon.

Mae Ithel Parri-Roberts yn adnabyddus am ei waith fel postfeistr Swyddfa Bost Hendygwyn-ar-Daf, sydd y gwnaeth am 50 mlynedd. Mae hefyd yn weithgar o fewn nifer o gymdeithasau lleol yn ei ardal.

Mae Eirios Thomas wedi bod yn drefnydd sirol i Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr ers 36 o flynyddoedd, gan roi cyfloed i bobl ifanc feithrin sgiliau ar gyfer y dyfodol.

Geoffrey Thomas, o Faesteg yn wreiddiol yn bellach yn byw yn Rhydychen, yw cadeirydd Cyngor Prifysgol y Drindod Dewi Sant. Mae hefyd yn wyddonydd uchel ei barch sydd wedi cyfrannu erthyglau at gylchgrawn Y Gwyddonydd.

Mae Haf Thomas o Lanrug wedi casglu £45,000 i achosion da amrywiol ar hyd y blynyddoedd. Mae hi'n gweithio i Gyngor Gwynedd.

Yn ôl yr Eisteddfod mae Lily May Thomas o Ben-y-bont, Caerfyrddin yn "yn byw ei bywyd yn ôl arwyddair Yr Urdd, yn ffyddlon i Gymru, i'w chyd-ddyn a Christ". Mae hi wedi bod yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul ac Eisteddfod yr Urdd dros y blynyddoedd.

Anna Williams o Glunderwen, Sir Benfro yw ysgrifennydd Cymdeithas Waldo ers 2010. Mae hi hefyd wedi bod yn gefnogol i addysg Gymraeg yn ei hardal fel llywodraethwr yn Ysgol y Fenni. Mae hi hefyd yn trefnu cystadleuaeth Canwr y Byd.

Mae cyfraniad Merfyn Williams i Gymdeithas Gymraeg Penbedw yn "enfawr" yn ôl yr Eisteddfod. Mae hefyd wedi bod yn stiwardio'n ffyddlon yn yr Eisteddfod ers 33 o flynyddoedd.

Rhian Huws Williams yw prif weithredwr Cyngor Gofal Cymru, ac mae hi'n gweithio'n galed i geisio sicrhau statws i'r Gymraeg ym maes iechyd. Mae hi hefyd yn aelod o gorau Cerdd Dant a Chanu Gwerin.

Gwisg Werdd

Image caption Fe wnaeth Huw Stephens dderbyn y Wisg Werdd yn 2012

Fe wnaeth yr Athro Helmut Birkan ddysgu Cymraeg tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth cyn mynd ymlaen i sefydlu'r adran Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Fienna, gan hybu'r iaith Gymraeg yn Awstria a'r Almaen hyd y blynyddoedd.

Mae Marian Evans o Nantlle wedi gweithio fel prifathrawes mewn sawl ysgol yn ogystal â fel ymgynghorydd ysgolion cynradd. Eisoes yn aelod o Gôr Cerdd Dant Lisa Erfyl a Chôr Pensiynwyr Y Mochyn Du, fe sefydlodd Gôr Plant Caerdydd ddwy flynedd yn ôl.

Fe enillodd Philippa Gibson gystadleuaeth yr englyn y Brifwyl yn ogystal â nifer o gadeiriau eisteddfodol eraill, wedi iddi ddysgu Cymraeg ar ôl symud i orllewin Cymru. Mae hi'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Tan-y-Groes ac yn cynnal dosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn ardal Aberteifi.

Bydd enw Roy Griffiths o Gwm Nant y Meichiaid wastad yn cael ei gysylltu â Plethyn, y band gwerin a sefydlodd gyda'i chwaer Linda Griffiths a'i gymydog John Gittins. Mae'r albwm Seidr Ddoe yn cael ei hystyried i fod yn un o glasurol y Gymraeg.

Mae Falyri Jenkins o Dalybont, Ceredigion yn gantores sydd wedi "ysbrydoli cenedlaethau o blant i fwynhau cerddoriaeth", yn ôl yr Eisteddfod. Mae hi hefyd yn cymryd rhan mewn cwmnïau drama Rhydypennau ac Arad Goch.

Bu Tegwyn Jones, Pontrobert, Sir Drefaldwyn yn arwain corau, yn aelod o Gyngor Sir Powys ac yn gadeirydd ar Bwyllgor Cerdd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

D. Geraint Lewis, yn wreiddiol o Ynysybwl, yw'r ymennydd tu ôl i'r Geiriadur Cymraeg Gomer - cyfrol y mae mawr ddisgwyl am ei gyhoeddi. Mae eisoes wedi cyhoeddi nifer o lyfrau am ganeuon gwerin a charolau, enwau, blodeugerddi a llawer mwy.

Caiff Jennifer Maloney, Llandybie, Sir Gaerfyrddin ei hanrhydeddu am ei gwaith gwirfoddol yn cynnal diwylliant eisteddfodol Sir Gâr. Mae hi wedi bod yn rhedeg Aelwyd Penrhyd ers ei sefydlu yn 1976.

Helen Prosser o Donyrefail yw cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg ac mae'n cael ei hanrhydeddu am frwydro dros hawliau'r Gymraeg ac am dwyn perswâd ar gymaint o bobl i ddysgu'r iaith.

Gwilym Tudur, o Chwilog yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Lledrod yng Ngheredigion wnaeth sefydlu Siop y Pethe yn Aberystwyth.

Mae Megan Tudur wedi bod yn olygydd i gylchgronau'r Urdd ac fe sefydlodd Siop y Pethe yn Aberystwyth gyda'i gwr, Gwilym.

Enillodd Megan Williams o Drefor y fraint o gael ei henwi'n Wniadwraig y Flwyddyn y cylchgrawn Vogue nol yn 1990. Hi wnaeth greu a gwnïo gwisg newydd yr Archdderwydd yn 2008 a gwisgoedd y morynion ar gyfer seremonïau'r Orsedd yn Eisteddfod Sir Gâr eleni.

Straeon perthnasol