Anaddas i blant?

Image caption Mae angen osgoi stereoteipio mewn llyfrau plant meddai Bethan Gwanas.

Gan bod Gŵyl y Gelli yn cael ei chynnal dros y dyddiau nesaf, mae BBC Cymru Fyw wedi gofyn i ddau o'n hawduron plant amlycaf oes yna themâu i'w hosgoi wrth ysgrifennu ar gyfer darllenwyr ifanc?

Fe fuodd Bethan Gwanas ac Eurgain Haf hefyd yn son sut mae arddull yr iaith wedi newid dros y blynyddoedd er mwyn denu rhagor o blant a phobl ifanc i ddarllen.

Yn ôl Bethan Gwanas, awdures ac enillydd cyntaf Gwobr Goffa T Llew Jones y llynedd, dydy "cadw plant mewn gwlân cotwm yn gwneud unrhyw les."

"Mi fydda i'n gwneud pwynt o osgoi 'sgrifennu am dywysogesau pinc ar gyfer merched, a cheir a gynau ar gyfer bechgyn. Mae fy merched i yn anturus a chlyfar, yn chwarae pêl-droed, yn gallu trin bwa a saeth a dringo coed. Mae'r bechgyn yn amrywio o un llinyn-trônsaidd sy'n datblygu i fod yn ddringwr da, i un sy'n troi'n ddafad pan fydd hi'n nosi.

"Fy newis i oedd osgoi stereoteipio, nid cais gan unrhyw un i fod yn 'wleidyddol gywir'.

"Yr unig themâu fydda i'n eu hosgoi yw cyffuriau, gan fod plant a phobl ifanc wedi cael llond bol o'r pwnc hwnnw - a fampirod.

Clawr llyfr Pen Dafad gan Bethan Gwanas Image copyright Y Lolfa
Image caption Mae'r bachgen yma'n troi'n ddafad pan fydd hi'n nosi!

Osgoi sôn am farwolaeth?

"Mae rhai wedi awgrymu y dylid osgoi sôn am farwolaeth gyda phlant iau, ond dwi'n anghytuno. Mae marwolaeth yn rywbeth y bydd pawb yn gorfod delio ag o yn hwyr neu'n hwyrach a dwi ddim yn credu bod cadw plant mewn gwlân cotwm yn gwneud unrhyw les. Mae llyfrau yn eich dysgu i gydymdeimlo, i uniaethu gyda phobl - ac anifeiliaid - pob dim."

"Mi ges i gais yn ddiweddar i ddileu y geiriau psychos a cretins o'r nofel 'Gwylliaid,' ond rydw i wedi eu cadw i mewn oherwydd bod 'cael fy lladd gan bunch of complete psychos', a 'chi'n absolute cretins!' yn gydnaws â'r cymeriad sy'n eu dweud nhw. Hefyd, mae plant wastad yn chwerthin pan fydda i'n darllen y darnau yna.

"Fydd dim dyfodol i'r iaith Gymraeg nes bydd ein pobl ifanc ni'n rhegi yn Gymraeg."

"Dwi wedi cael fy meirniadu am gynnwys rhegfeydd mewn llyfrau ar gyfer yr arddegau. Twt lol, maen nhw'n gwbl ddiniwed o'u cymharu ag ambell nofel Saesneg, ac mae 'cocoen' yn reg cwbl Gymraeg a chymreig. Dywedodd rhywun clyfar iawn rhyw dro: 'Fydd dim dyfodol i'r iaith Gymraeg nes bydd ein pobl ifanc ni'n rhegi yn Gymraeg.'

"Mae'r arddull o sgrifennu yn Gymraeg yn sicr wedi gorfod newid ers fy mhlentyndod i. Diflanodd yr 'ebr' a'r 'ebe', ac anaml welwch chi bethau fel 'cadwasom' a 'llusgasom' erbyn heddiw. Mae'r iaith yn llawer mwy llafar bellach, yn llawer haws ei ddarllen, a hynny oherwydd bod angen bachu sylw darllenwyr ifanc yn syth. Os na wnewch chi, ac os na fyddan nhw'n gallu deall y dudalen gyntaf, mi fydd y rhan fwya wedi troi at y teledu/Ipad /Xbox neu lyfr Saesneg o fewn dim "am fod llyfrau Cymraeg yn ddiflas/anodd."

Mae Eurgain Haf, sydd wedi cyhoeddi sawl nofel ffantasi i blant gan gynnwys 'Yr Allwedd Aur' a 'Gedonia' yn credu bod awduron heddiw yn gallu arbrofi gydag arddull er mwyn apelio at blant, ond bod y gofynion oesol am ddechrau, canol a diweddglo da i stori dal yn allweddol.

Image caption Eurgain Haf, awdur llyfrau ffantasi i blant

"Mae'n bwysig bod llenyddiaeth i blant wedi ei ysgrifennu mewn ffordd ddealladwy ac yn ymwneud â'u hamrediad o brofiadau ac mewn iaith sy'n gyfarwydd iddyn nhw. Mae iaith yn esblygu o hyd ac mae llyfrau i blant yn gorfod adlewyrchu hynny.

"Oni bai am eiriau sy'n perthyn i'w cyfnod dw i ddim yn meddwl fod y defnydd o iaith wedi newid cymaint â hynny mewn llyfrau i blant. Efallai ei fod fymryn yn fwy ffurfiol er stalwm ond yn sicr roeddwn ni'n ei gael yn ddigon darllenadwy.

"Dw i'n meddwl fod awduron heddiw hefyd yn gallu arbrofi mwy gydag arddull eu nofelau gan ddefnyddio technegau fel negeseuon testun ac ebost a chyfrwng sgyrsiol rhwydweithiau cymdeithasol o fewn eu nofelau fel rhan o'r stori.

"Mae'r oes wedi newid"

"Dw i ddim yn meddwl fod yna ymdrech i osgoi rhai themâu mewn llenyddiaeth plant heddiw - os rhywbeth dwi'n meddwl fod awduron yn cael eu hannog i'w cofleidio. Yr hyn sydd yn allweddol bwysig wrth gwrs yw bod yr awdur yn delio gyda'r thema hynny mewn ffordd gyfrifol a chydwybodol.

Image caption Clawr llyfr 'The Three Golliwogs' gan Enid Blyton gafodd ei gyhoeddi gyntaf yn y 1940au.

"Mae'r oes wedi newid, diolch byth, ac yng nghyfnod Enid Blyton ('The Three Golliwogs') a Hergé ('Tintin in The Congo') roedd yr ymdriniaeth o hiliaeth yn wahanol i'r hyn ydyw heddiw.

"Dw i ddim yn meddwl fod awduron yn mynd ati i foesoli a phregethu o fwriad wrth ysgrifennu, mae'n dibynnu ar y stori a pha bynciau trafod fydd yn codi ohoni.

"Fy nod gyda'r gyfres Siencyn (sy'n dilyn hynt a helynt crwydryn hoffus a'i gi bach teircoes) oedd cyfrannu at addysg gymdeithasol a moesol plant sydd erbyn hyn yn rhan bwysig o'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

"Yn ogystal ag adlonni, ro'n i'n gobeithio y bydd y straeon yma hefyd yn ysgogi trafodaethau ymhlith plant a'u hathrawon ar sut rydym yn edrych ar y rhai sydd yn ddigartref neu yn byw bywyd mewn ffordd sydd ychydig yn wahanol.

"Yr hyn sy'n braf heddiw ydi fod yna lawer o gyfleon i awduron newydd gyhoeddi eu gwaith yn y Gymraeg ar gyfer plant ac oherwydd hynny rydyn ni'n cael amrywaieth eang o leisiau ffres ac arddulliau.

Straeon syml traddodiadol yn dal i blesio

"Dw i'n meddwl fod yna duedd gan oedolion i feddwl fod plant yn disgwyl gormod oherwydd bod dylanwad teledu, ffilmiau, gemau cyfrifiadurol a'r we fyd-eang wedi eu cymathu ac agor eu llygaid i bynciau a golygfeydd treisgar na fyddai'n bosib, nac yn ddymunol i'w cynnwys rhwng cloriau llyfr. Ond [fe ddywedodd] fy mam, sy'n gyn-athrawes - fod plant heddiw yn dal yn hoff o straeon syml, traddodiadol, llawn hud a lledrith.

Image caption Rhai o'r llyfrau sy'n cael eu cyfri yn glasuron

"Mae rhywun yn clywed y dyddiau yma am rai rhieni sy'n gwrthod darllen rhai o'r straeon tylwyth teg clasurol i'w plant - rhai fel yr 'Hugan Fach Goch' a 'Hansel a Gretel' - am nad ydynt yn eu cyfrif yn wleidyddol gywir.

"Dw i'n credu fod pob rhiant am i'w plant fwynhau y straeon a'r llyfrau roedden nhw yn eu mwynhau fel plant hefyd - mae'n fodd o bontio dau blentyndod."

Mi fydd rhaglen Stiwdio gyda Nia Roberts ar BBC Radio Cymru yn edrych ar lenyddiaeth plant a phobl ifanc gan siarad gyda Bethan Gwanas ac enillwyr Gwobr Tir na n-Og eleni. Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu am 12:00 ar ddydd Mawrth 3 Mehefin.