£50 miliwn ar wasanaethau i bobl hŷn

gwasanaeth nyrsio gofal Image copyright Thinkstock
Image caption Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd mwy o bobl yn medru cadw eu hannibyniaeth

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi pa gynlluniau fydd yn elwa yn sgil cronfa iechyd £50 miliwn ar gyfer pobl hŷn.

Pwrpas y cynlluniau, medd y llywodraeth, yw lleihau'r galw am driniaeth ysbyty a helpu mwy o bobl i gadw eu hannibyniaeth.

Bydd timau iechyd a gofal yn anelu at atal derbyniadau "diangen" i ysbytai, a chefnogi pobl yn well ar ôl iddyn nhw adael yr ysbyty.

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu amseru'r cyhoeddiad, ond wedi croesawu'r buddsoddiad mewn gwasanaethau.

'Gwahaniaeth go iawn'

Ddydd Mawrth, daeth i'r amlwg bod 25% yn llai o welyau mewn ysbytai cymunedol yng Nghymru dros y bum mlynedd diwethaf.

Dywedodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: "Mae ein cronfa £50m yn cynnig cyfle gwych i wneud gwahaniaeth go iawn i bobl hŷn ledled Cymru.

"Bydd y buddsoddiadau... yn sicrhau bod iechyd, tai a'r gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys y trydydd sector a'r sector annibynnol, yn cydweithredu ar amryw o brosiectau arloesol."

Dywedodd y llywodraeth bod hybu cydweithio mwy effeithiol rhwng y sector gofal a gwasanaethau iechyd yn un o'r prif flaenoriaethau yn eu cyllideb.

Yn ogystal â helpu pobl i aros yn eu cartrefi mae cadw pobl fregus allan o wardiau ysbyty yn cael ei hystyried yn ffordd effeithiol o reoli gwelyau prin.

Y cynlluniau newydd:

  • Caerdydd a'r Fro: 'Tŷ Clyfar' fydd yn rhoi'r cyfle i bobl hŷn a'u teuluoedd weld a rhoi cynnig ar gymorth yn y cartref;
  • Cwm Taf: Gwasanaeth integredig yn canolbwyntio ar gadw annibyniaeth pobl hŷn;
  • Gogledd Cymru: Gwasanaethau iechyd a gofal dros nos;
  • Gwent: Gwasanaeth i gefnogi pobl â dementia a strôc yn eu cartrefi;
  • Bae'r Gorllewin: Gwasanaethau ail-alluogi, gan gynnwys therapyddion galwedigaethol;
  • Canolbarth a'r gorllewin: Y sector wirfoddol i ddarparu gwasanaethau gyda'r hwyr i gleifion â dementia.

'Ail-gyhoeddiad sinigaidd'

Dywedodd Darren Millar AC, llefarydd y Ceidwadwyr dros Bobl Hŷn: "Mae hyn yn ail-gyhoeddiad sinigaidd, ar y noson cyn yr etholiadau Ewropeaidd, o ailgylchu arian ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn."

"Mae llawer o bobl hŷn wedi wynebu'r gwaethaf o'r toriadau yn y gyllideb gan Llafur i GIG Cymru, gyda chau ysbytai cymunedol ac israddio gwasanaethau.

"Mae'n bwysig sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn y parch maent yn eu haeddu. Gall hyn atal pobl sydd, gyda chymorth, yn byw yn annibynnol yn lle mynd i mewn i ofal tymor hir.

"Gyda'r gofal priodol yn eu hardal gallwn osgoi'r gofid diangen iddynt hwy a'u teuluoedd, sy'n golygu nad yw pobl hŷn yn cael eu gweld fel baich."

'Lleihau pwysau'

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol na fyddai'r gronfa yn bodoli heblaw eu plaid.

"Rydyn ni i gyd yn gwybod bod y GIG yn dioddef ar hyn o bryd. Mae staff yn gweithio o dan bwysau enfawr ac nid yw llawer o gleifion yn cael y gofal y maen nhw'n haeddu.

"Bydd y gronfa yma yn lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd gan gadw cleifion allan o unedau Gofal Brys a lleihau'r faint sy'n mynd i'r ysbyty heb fod wedi ei gynllunio.

"Does gyda ni ddim amheuaeth bod y Llywodraeth Lafur wedi cam-reoli ein gwasanaeth iechyd. Ond nid yw hynny'n golygu ein bod ni fel gwrthblaid am eistedd yn ôl a gwneud dim."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Elin Jones: "Mae'n dda gweld gwaith Plaid Cymru yn cael ei droi'n ymarfer.

"Mae'r trosi rhwng gofal iechyd a chymdeithasol yn broblemus yn aml, ac yn rhy aml, mae cleifion yn treulio mwy o amser nac sydd raid yn yr ysbyty oherwydd oedi sy'n digwydd trwy fiwrocratiaeth rhwng Byrddau Iechyd ac awdurdodau lleol wrth iddynt aros i gael eu trosglwyddo o ysbyty i leoliad gofal.

"Rydym eisiau rhoi diwedd ar y brwydrau biwrocrataidd hyn, ac fe all y gronfa hon liniaru rhai o'r problemau yn y system gofal argyfwng trwy roi dewisiadau yn lle mynd i'r ysbyty, a chefnogi byw yn annibynnol."

Straeon perthnasol