'Angen ombwdsmon i ddatrys dadlau addysg'

Nigel Copner
Image caption Mae Nigel Copner yn dweud y gallai ombwdsmon ddatrys unrhyw anghydfod yn gynt

Mae cyn bennaeth ysgol yn galw am greu corff annibynnol newydd i benderfynu pan mae achosion o ddadlau rhwng penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion.

Swydd llywodraethwyr yw craffu ar bennaethiaid ysgolion ac maen nhw hefyd yn aml yn gyfrifol am osod targedau.

Ond mewn rhai achosion, mae llywodraethwyr yn gwario misoedd - ac weithiau blynyddoedd - yn dadlau gyda phrifathrawon, rhywbeth all gael effaith mawr ar ysgolion.

Nawr mae cyn-bennaeth o Flaenau Gwent ymysg grŵp sy'n galw am sefydlu ombwdsmon addysg annibynnol.

Corff annibynnol

Yn ôl Brian Mawby, mae angen corff annibynnol i ddyfarnu pan mae dadl yn cymryd rhy hir i'w ddatrys, i alluogi i'r ysgol a'r llywodraethwyr ganolbwyntio ar addysgu a gwella safonau.

"Yn anffodus, mae'n ymddangos i fi bod na gynnydd ar y funud, yn bendant o ran yr oedi rhwng bod na anghydfod yn cael ei gofnodi a bod na ddatrysiad."

Daw'r alwad wedi i gyn gadeirydd y llywodraethwyr yn Ysgol Glyncoed yng Nglyn Ebwy ddweud ei fod wedi gorfod gadael y bwrdd rheoli ar ôl herio'r prifathro i osod targedau mwy uchelgeisiol i ddisgyblion.

Dywedodd Nigel Copner ei fod wedi ceisio siarad gyda'r prifathro ond bod yntau wedi ei anwybyddu, ac yna bod awdurdod addysg Blaenau Gwent wedi ei fygwth.

"Mae hi bron yn flwyddyn nawr ers bod na gwyn ffurfiol wedi bod yn fy erbyn. Mi ddyle hyn fod wedi cael ei ddatrys o fewn wythnosau.

"Os y byddai yna ombwdsmon addysg mi allen nhw ddod i mewn o fewn ychydig ddyddiau a datrys y broblem er budd yr ysgol a'r plant."

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi cadarnhau bod yna fater llywodraethol yn bodoli yn Ysgol Glyncoed ond nad oes ganddyn nhw bryderon am rôl y prifathro na lles a diogelwch y plant.

Perthynas yn suro

Dywedodd Jocelyn Davies, Aelod Seneddol de ddwyrain Cymru, ei bod wedi dod ar draws sawl achos yn ei hardal lle roedd y berthynas rhwng prifathrawon a llywodraethwyr wedi suro.

"Rydw i'n poeni oherwydd pan rydyn ni'n gofyn i bobl ddod yn llywodraethwyr ysgol, rydyn ni'n gofyn iddyn nhw wneud hynny yn wirfoddol.

"Felly rydw i'n meddwl y dylen ni roi gymaint o gefnogaeth ac sy'n bosib."

Ychwanegodd: "Dwi'n teimlo bod hwn yn rhywbeth fyddai'n gwella beth sydd gyda ni eisoes i gefnogi llywodraethwyr."

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y syniad o gael ombwdsmon gan ddadlau bod gan awdurdodau addysg leol y pŵer i ymyrryd.

Straeon perthnasol