Dechrau clirio wedi llifogydd yn ne Cymru

Llifogydd Image copyright Alison Owen

Mae busnesau a thrigolion yn dechrau ar y gwaith clirio wedi i law trwm achosi llifogydd yn ne Cymru ddydd Iau.

Dywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru eu bod wedi derbyn 174 o alwadau mewn cyfnod o bedair awr.

Roedd y difrod gwaethaf yng Nghwmbrân a Phenarth, tra bod 60 o ddefaid wedi eu hachub yng Nghasnewydd.

Cafodd dŵr ei bwmpio o dai gan y Gwasanaethau brys mewn sawl lleoliad.

Image copyright Gabalfa Focus Team
Image caption Cafodd ffyrdd yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd eu heffeithio
Image copyright Fabio
Image caption Dyma oedd yr olygfa o fwyty ym Mhenarth
Image caption Dywedodd llygad-dystion mae mellten darodd y ffatri yma yn Abertawe

'Wedi difetha'

Cafodd criwiau eu galw i lifogydd ar nifer o strydoedd ym Mhenarth ac yn Lecwydd.

Roedd adroddiadau o lifogydd hefyd yng Nghaerffili, a chafodd criwiau o Gwmbrân eu galw i achosion yn Bagley Court, Thornhill a Larch Grove.

Ychwanegodd y gwasanaeth eu bod wedi cael dros 30 o geisiadau am fagiau tywod i ddelio gyda llifogydd.

Roedd mellt a tharanau uwchben sawl ardal o'r de ddwyrain, ac mae busnesau wedi bod yn ceisio cadw draeniau yn glir.

Dywedodd Rhiannon Hartland, rheolwr Romeo's By The Sea ym Mhenarth bod staff wedi bod yn ceisio cadw'r dŵr allan o'r bwyty.

"Daeth y dŵr i mewn ac mae'r carped wedi ei ddifetha," meddai.

"Mae wedi mynd i lawr ychydig erbyn hyn ac rydyn ni wedi clirio rhai o'r draeniau. Ond ni ddylai fod wedi cyrraedd y lefel yna."