URC i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol

David Moffett Image copyright Getty Images
Image caption Roedd David Moffett yn gyfrifol am newid trefn rygbi rhanbarthol yn ystod ei gyfnod fel prif weithredwr

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud y bydd Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol wedi iddyn nhw dderbyn cais gan y nifer angenrheidiol o glybiau.

Mae 43 o'r ceisiadau gan glybiau sy'n aelodau o'r undeb ac mae'r rhain yn cynnwys y pedwar rhanbarth.

Cyn brif weithredwr yr undeb David Moffett sydd wrth wraidd y datblygiad diweddaraf, wrth iddo geisio sicrhau lle ar fwrdd llywodraethu'r undeb.

Gallai pleidlais o ddiffyg hyder yn URC yn y cyfarfod orfodi yr aelodau etholedig i adael, gan roi cyfle i Moffett ddychwelyd.

Yn 2007 y cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol diwethaf.

Roedd Moffett yn brif weithredwr yr undeb pan gafodd y Rhyfelwyr Celtaidd eu diddymu yn 2004.

Roedden nhw'n un o'r pum rhanbarth gwreiddiol ynghyd â'r Gweilch, y Scarlets, y Gleision a'r Dreigiau.

Moffett oruchwyliodd ddechreuadau rygbi rhanbarthol yng Nghymru yn 2003 pan gymrodd y rhanbarthau le'r 12 clwb proffesiynol.

Straeon perthnasol