Craig Bellamy yn ymddeol

Craig Bellamy Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dywedodd Bellamy nad oedd ei gorff "yn medru ymdopi rhagor".

Mae'r pêl-droediwr Craig Bellamy wedi ymddeol o chwarae pêl-droed yn 34 oed.

Dywedodd ddydd Iau nad oedd ei gorff "yn medru ymdopi rhagor".

Dechreuodd ei yrfa broffesiynol yn Norwich pan wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Arsenal yn 1997.

Sgoriodd 13 gôl y tymor hwnnw, gan sefydlu ei hun fel un o chwaraewyr pwysicaf y clwb.

Wedi cyfnod byr yn Coventry, lle cafodd nifer o anafiadau, symudodd i Newcastle, lle'r oedd o mewn partneriaeth gydag un o oreuon y Magpies, Alan Shearer.

Enillodd wobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn 2001 cyn ennill tlws y Scottish Cup gyda Celtic yn 2005.

Cafodd hefyd gyfnodau yn Blackburn Rovers, Lerpwl a Manchester City, lle chwaraeodd dan reolaeth cyn chwaraewr Cymru, Mark Hughes.

Yn 2010 aeth Bellamy yn ôl i'w glwb cartref, gan symud i Gaerdydd ar fenthyciad cyn ymuno ar gytundeb parhaol yn 2012.

Roedd Bellamy yn rhan ganolog o lwyddiant y clwb i gyrraedd yr Uwch Gynghrair am y tro cyntaf y tymor hwnnw, ac yn yr ymdrech aflwyddiannus i aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Ymddeolodd o bêl-droed rhyngwladol ar ddiwedd ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd.

Roedd gêm ryngwladol olaf Bellamy yn erbyn Gwlad Belg ym Mrwsel ym mis Hydref y llynedd.

Straeon perthnasol