Abertawe a Laudrup yn dod i gytundeb yn dilyn ei ddiswyddiad

Laudrup
Image caption Mae Michael Laudrup a'r Elyrch wedi dod i gytundeb dros ei ddiswyddiad.

Mae'r Elyrch wedi cadarnhau eu bod wedi dod i gytundeb gyda'u cyn-reolwr Michael Laudrup yn dilyn ei ddiswyddiad ym mis Chwefror eleni.

Mewn datganiad ar wefan Abertawe, dywedodd y clwb eu bod yn diolch i Laudrup am ei waith dros 18 mis pan lywiodd yr Elyrch i'r nawfed safle yn Uwchgynghrair Lloegr, yn ogystal ag ennill Cwpan Capital One.

Dywedodd y clwb eu bod yn dymuno'r gorau i Laudrup i'r dyfodol ac na fyddai datganiad arall yn cael ei gyhoeddi ar y mater gan Abertawe na Laudrup.

Chwarae unwaith eto

Mi fydd Laudrup, a oedd yn un o chwaraewyr canol cae gorau Ewrop am sbel yn yr 1980au a 90au gyda Barcelona, Real Madrid a Denmarc yn chwarae unwaith eto.

Bydd yn chwarae mewn gêm arbennig fel rhagflas i gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr ym Mhortiwgal nos 'fory ac mi fydd Paulo Sousa, un arall o gyn-reolwyr yr Elyrch yn ei wynebu.

Penodwyd Garry Monk yn rheolwr parhaol ar Abertawe ar 7 Mai 2014.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.