Dyn 18 oed wedi marw yn dilyn damwain ar gylchfan Llandarcy

Mae dyn 18 oed wedi marw yn dilyn damwain un cerbyd ar gylchfan Llandarcy wrth ymyl Abertawe.

Cafodd y criwiau tân eu hafon i'r ardal tua 5 y bore. Mi oedd y car Vauxhall Corsa wedi taro rhwystr ac mi fuodd y gyrrwr farw yn y fan a'r lle. Roedd y dyn yn lleol i'r ardal.

Mae dau arall oedd yn y car yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar gyfer mân anafiadau.

Roedd ffordd yr M4 i'r dwyrain ger cyffordd 43 ar gau am gyfnod ond mae'r ffordd wedi ail agor erbyn hyn.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ac yn gofyn i unrhyw un a welodd unrhywbeth i gysylltu trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar y rhif 0800 555 111.

Mae'r teulu wedi cael gwybod.