T20 : Morgannwg yn colli i Essex

James Foster Image copyright Getty Images
Image caption Roedd batiad James Foster yn ddinistriol i obeithion Morgannwg

Fe sgoriodd James Foster 24 mewn un belawd wrth i Essex guro Morgannwg yng nghystadleuaeth y T20 yn Chelmsford nos Wener.

Fe darodd Foster y bêl i'r ffin bum gwaith oddi ar fowlio Jim Allenby i droi'r gêm.

Yn gynharach yn y dydd fe sgoriodd Jaques Rudolph 63 ac Allenby 68 wrth i Forgannwg osod nod heriol i'r tîm cartref o 190.

Ac er i Foster fynd am 32 fe gafodd Ben Foakes 46 a Greg Smith 25 heb fod allan gan gynnwys chwech oddi ar y bêl olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Er i Foster sgorio 24 yn y 15fed pelawd - tri 4 a dau 6 - fe gipiodd Michael Hogan ddwy wiced i roi gobaith i'r ymwelwyr.

Ond llwyddodd Smith i gyrraedd y nod gyda dwy belen yn weddill.