Damwain ar yr M4: menyw yn yr ysbyty

Mae menyw yn yr ysbyty yn dilyn damwain rhwng tri char ar yr M4 wrth ymyl Pen y Bont.

Cafodd y criwiau tân eu galw i'r ddamwain toc cyn 3.30 y prynhawn.

Roedd yn rhaid defnyddio offer arbennig fel bod y fenyw yn medru dod allan o'i char.