'Dihangfa lwcus' i gerddwr ar fynydd Tryfan

Mae cerddwr yn "lwcus iawn" na chafodd o anafiadau mwy difrifol ar ôl disgyn 50 troedfedd ar fynydd Tryfan, yn ôl y tîm achub mynydd.

Mi ddisgynodd y dyn yn ei 30au lawr llethr serth nos Sadwrn ac roedd yn anymwybodol am gyfnod. Cafodd 18 o achubwyr mynydd eu hanfon a hofrennydd yr Awyrlu o Ganolfan y Fali.

Cafodd ei anfon i'r ysbyty oherwydd anafiadau i'w ben.