Effaith refferendwm ar Gymru

Gwyl y Gelli

Bydd arbenigwyr gwleidyddol yn rhan o drafodaeth arbennig ar faes Gŵyl y Gelli ddydd Mawrth i sôn am effaith bosib refferendwm yr Alban ar Gymru.

Prif bwnc y drafodaeth - o dan gadeiryddiaeth cyflwynydd Newyddion 9, Bethan Rhys Roberts - fydd pleidlais 'IE' neu bleidlais 'NA' yn y refferendwm ar annibyniaeth.

Fe fydd yr Athro Richard Wyn Jones, cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, a'r Athro James Mitchell o Brifysgol Caeredin yn pwyso a mesur effaith pleidlais y naill ffordd neu'r llall ar Gymru a gweddill y DU.

'Newid mwy sylfaenol'

Mae'r ddau wedi bod yn amlinellu eu dadleuon cyn y drafodaeth. Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones:

"Mae gan y broses ddatganoli yng Nghymru ei egni mewnol ei hun, ac sydd â chysylltiad cyffyrddol yn unig â'r Alban ond sydd hytrach yn adlewyrchu agweddau'r cyhoedd yng Nghymru - sydd yn newid - a natur annigonol y darpariaethau datganoledig i Gymru.

"Wedi dweud hynny, fe allai pleidlais 'NA' agos yn yr Alban arwain at broses o newid mwy sylfaenol yn natur gwladwriaeth y DU ac fe fyddai hynny'n cael effaith ar Gymru ac ar natur y drafodaeth yng Nghymru.

"Yn rhyfedd ddigon fe allai pleidlais 'IE' gael llai o effaith ar Gymru yn syth.

"Mae hyn am ei bod mor anodd i ddychmygu sut beth fyddai'r DU heb yr Alban yn edrych a theimlo o bersbectif Cymreig.

"Rwy'n amau y bydd hi'n flynyddoedd cyn i fwyafrif pobl Cymru sylweddoli beth, os unrhyw beth, y byddai annibyniaeth yr Alban yn ei olygu i ni."

'Goblygiadau sylweddol'

Fe fydd yr Athro James Mitchell yn edrych ar y bleidlais o safbwynt Albanaidd, gan ddweud:

"Bydd pleidlais 'IE' yn tynnu'r unig rwystr i ddiwygio fformiwla Barnett {sy'n cael ei ddefnyddio i bennu cyllidebau'r gwladwriaethau datganoledig} er y gallai pleidlais 'NA' annog Llundain i fod yn fwy cadarn wrth ddelio gydag Alban wannach.

"Beth bynnag fydd yn digwydd, pwysau ar y pwrs cyhoeddus fydd y prif ddylanwad ar bolisi cyhoeddus dros y blynyddoedd i ddod wrth i'r toriadau frathu yng nghanol ymdrechion i daclo dyled anferthol y DU.

"Mae'n debyg y bydd pleidlais 'NA' yn dod â'r bennod yma o'r berthynas rhwng y DU a'r Alban i ben.

"Bydd llywodraeth San Steffan yn debyg o symud at faterion eraill, a bydd aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn llawer mwy arwyddocaol na chyfansoddiad mewnol.

"Ond os fydd mater datganoli'n cilio fydd o byth yn diflannu'n llwyr, ac mae'n debyg iawn y bydd statws cyfansoddiadol yr Alban yn ail-ymddangos fel dadl yng ngwleidyddiaeth y DU yn y dyfodol gyda goblygiadau sylweddol i Gymru."

Straeon perthnasol