Baton y Frenhines yn dathlu Dylan

Julien Lewis Jones
Image caption Bu Julian Lewis Jones yn darllen rhan o waith Dylan Thomas yn Nhalacharn cyn cludo'r baton

Ar bedwerydd diwrnod ei daith trwy Gymru, mae Baton y Frenhines wedi bod yn ymweld â sied ysgrifennu Dylan Thomas yn Nhalacharn i ddathlu canmlwyddiant geni'r bardd.

Cyn cludo'r baton yno ar ddechrau pedwerydd diwrnod y daith, bu'r actor Julian Lewis Jones yn darllen darnau o waith Thomas y tu allan i'r sied.

Yno hefyd bu Menna Elfyn yn darllen cerdd newydd i ddathlu'r achlysur, a dywedodd:

"Dyw chwaraeon ddim wastad yn bwnc hawdd fel thema i fardd. Fues i'n pendronni symboliaeth y linell wen, llinell derfyn ras.

"Dwi'n meddwl bod taith y baton yn beth braf sy'n cysylltu cymunedau. A mae dod i Dalacharn yn ystod canmlwyddiant Dylan yn abennig - mae'n dod â diwylliant yn fyw."

Image caption Roedd Hedydd Davies yn cludo Baton y Frenhines am y trydydd tro wedi iddo wneud hynny yn 1958 a 2002
Image caption Daeth torf o dros 500 i weld y baton yng nghanolfan hamdden Caerfyrddin
Image caption Mae Steve Perks wedi bod yn athletwr ei hun a bellach yn hyfforddi nifer o athletwyr gorau Cymru, ac fe gafodd yntau gyfle i gario'r baton ddydd Mawrth
Image caption Y tenor Wynne Evans oedd un arall i gael cari'r baton ddydd Mawrth

Tri chynnig

Aeth y baton ymlaen i ganolfan hamdden Caerfyrddin lle cafodd ei gludo gan ddyn arbennig iawn o flaen torf o dros 500 o bobl.

Roedd Hedydd Davies ymhlith y rhai fu'n cario'r baton gwreiddiol yn 1958, ac eto yn 2002.

Tri chynnig i Gymro medd y ddihareb, a dywedodd Mr Davies ei bod yn anrhydedd cael cludo'r baton am y trydydd tro eleni.

Un arall gafodd gyfle i gario'r baton oedd Steve Perks. Yn wreiddiol o Lanelli bu Steve Perks yn athletwr ei hun cyn troi i fyd hyfforddi, ac mae e bellach yn gyfrifol am hyfforddi rhai o athletwyr gorau Cymru a'r DU.

Un arall fu'n cludo'r baton oedd y tenor Wynne Evans, sydd hefyd yn gyflwynydd ar BBC Radio Wales.

Dywedodd Wynne: "Mae'n drymach nag o'n i wedi meddwl, ond mae'n beth gwych - mae'n mynd i fod yn ddiwrnod bendigedig, ond gobeithio na fydd rhaid i mi redeg gormod!"

Rhydaman

Daeth cannoedd allan ar strydoedd Rhydaman i groesawu'r baton yno, ac fe gafodd ei hebrwng gan ddyn yn chwarae'r 'bagpipes Cymreig'.

Un o'r rhai fu'n cario'r baton yno oedd Myrddin John. Yn ogystal â chystadlu dros Gymru mewn codi pwysau yn Gemau'r Gymanwlad yn 1958, bu hefyd yn bennaeth Cyngor Gemau'r Gymanwlad dros Gymru am flynyddoedd lawer cyn iddo ymddeol yn 2011.

Image caption Fe glywyd y bagpipes Cymreig yn hebrwng y baton yn Rhydaman
Image caption Yn ogystal â chystadlu dros Gymru yn y Gemau yn 1958 bu Myrddin John (sy'n dal y baton) yn bennaeth Cyngor Gemau'r Gymanwlad Cymru tan 2011

Llanelli

Ymlaen i Lanelli wedyn ac un o enwau mawr chwaraeon yr ardal oedd y cyntaf i gario'r baton yno, sef Non Evans.

Mae Non wedi cystadlu yn Gemau'r Gymanwlad dros Gymru yn ogystal â bod yn gapten ar y tîm rygbi merched rhyngwladol. Dywedodd:

"Roedd hi'n wych cael dechrau pethau yn Llanelli. Fel un o'r ardal roeddwn i dam deimlad a gweud y gwir gyda cymaint o bobl wedi troi lan!

"Yn sicr rwy'n credu bydd hyn yn gwneud pobl yn fwy ymwybodol o'r Gemau. Fe wnes i gystadlu ym Manceinion - roedd cefnogaeth y dorf yn anhygoel yno, ac fe fydd hi cystal yn Glasgow eleni gobeithio."

Image caption Non Evans oedd y cyntaf i gario'r baton yn Llanelli
Image caption Daeth cannoedd i ardal Neuadd y Dref Llanelli i groesawu Baton y Frenhines
Image caption Roedd awyrgylch ffair wrth i'r baton ddychwelyd i ganol Caerfyrddin

Erbyn diwedd dydd Mawrth roedd y baton wedi dychwelyd i Gaerfyrddin, ac fe ddaeth y dorf unwaith eto ar gyfer noson o adloniant.

Roedd awyrgylch ffair ym mhrif sgwâr y dref wrth baratoi i ffarwelio â'r baton.

Bydd taith Baton y Frenhines yn arwain at Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow, sy'n dechrau ar 23 Gorffennaf.

Yn ystod ei dridiau cyntaf yng Nghymru, mae'r baton wedi profi'r glaw a'r heulwen wrth deithio trwy gymoedd y de ddwyrain, cyn symud trwy Bowys i faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Bala ddydd Llun.

Daeth y baton i Gymru fore Sul, gan lanio ym Maes Awyr Caerdydd cyn teithio drwy Abertyleri, Glyn Ebwy, Tredegar a Merthyr Tudful.

Yna ddydd Sul aeth o gwmpas Rhondda Cynon Taf, cyn troi am Landrindod ym Mhowys.

Erbyn diwedd yr wythnos bydd Baton y Frenhines wedi teithio 731 o filltiroedd yng Nghymru, gan gynnwys mynd i gopa'r Wyddfa.

Straeon perthnasol