Williams i fethu taith De Affrica wedi gwaharddiad

Owen Williams

Bydd maswr ifanc Cymru yn methu'r daith i Dde Affrica wedi iddo gael ei wahardd rhag chwarae am chwe wythnos.

Plediodd Owen Williams yn euog i gyhuddiad bwrdd disgyblu ei fod wedi cyffwrdd llygaid Luther Burrell yn ystod gêm Caerlŷr yn erbyn Northampton yn Uwchgynghrair Aviva.

Mae gwaharddiad y maswr 22 oed yn para dros gyfnod taith Cymru i Dde Affrica.

Mae'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn argymell gwaharddiadau o rhwng 12 a 156 wythnos i chwaraewyr sy'n euog o droseddau o'r fath.

Bydd Williams nawr yn sicr o fethu taith Cymru i Dde Affrica, sy'n dechrau ar Fehefin 10 gyda gêm rhagbrofol yn erbyn Eastern Province Kings.

Bydd tîm Warren Gatland yn wynebu'r Springboks ar Fehefin 14 a 21.

Cyn hynny, bydd gêm baratoi fydd yn gweld y Tîm Tebygol yn erbyn y Tîm Posib yn Abertawe nos Wener.

Doedd Williams ddim yn gymwys i chwarae yn y gêm honno oherwydd penderfyniad clybiau Lloegr na fyddai eu chwaraewyr yn cael cymryd rhan.

Dan Biggar fydd yn dechrau yn safle'r maswr i'r Tîm Tebygol, gyda James Hook yn gwisgo crys rhif deg i'r Tîm Posib.

Straeon perthnasol