Pwyllgorau craffu: 'Angen mwy o gysondeb gan gynghorau'

Cyfarfod Image copyright Thinkstock
Image caption Mae'r Swyddfa Archwilio am weld mwy o gysondeb ac eglurhad o waith craffu cynghorau

Mae trefniadau craffu llywodraeth leol yng Nghymru yn gwella ond mae angen i gynghorau weithredu'n fwy cyson os ydynt am ychwanegu gwerth ar ran y trethdalwr, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod angen i gynghorau wneud mwy i ddangos effaith gwaith craffu ac egluro rôl pwyllgorau craffu.

Dywed y Ceidwadwyr y dylai unrhyw wariant gan gynghorau gael ei gyhoeddi arlein er mwyn ei gwneud yn haws i'r cyhoedd gadw golwg.

Fe wnaeth y Swyddfa Archwilio edrych ar waith pwyllgorau craffu pob un o'r 22 cyngor sir yng Nghymru.

Trefniadau craffu

Cynghorwyr nad ydynt yn aelodau o'r cabinet neu'r bwrdd rheoli sy'n rhan o bwyllgorau craffu o'r fath.

Y nod yw sicrhau fod yna well atebolrwydd, gan archwilio sut mae penderfyniadau yn cael eu cymryd gan brif swyddogion a sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.

Yn ei adroddiad, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn nodi, tra bod cynghorau yn mynd ati i wella trefniadau craffu, nid yw'r canlyniadau bob amser yn glir er gwaethaf yr amser a'r adnoddau sylweddol sy'n cael eu buddsodi.

Er i'r adroddiad ganfod bod cynghorau yn awyddus i ddysgu a gwella eu dulliau gweithredu, mae hefyd yn nodi eu bod yn ei chael hi'n anodd dangos effaith y gwaith craffu.

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: "Mae'r astudiaeth hon yn dangos, tra bod pocedi o waith craffu da, bod diffyg cysondeb.

"Gyda gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu her ariannol fawr, ni fu cyfnod pwysicach i gynghorau ddatblygu trefniadau craffu effeithiol a chadarn erioed.

"Mae angen i benderfyniadau fod yn gyson, yn dryloyw ac yn drylwyr ac mae mwy o gydnabyddiaeth ynghylch gwerth gwaith craffu yn hanfodol er mwyn i gynghorau weld y manteision gwirioneddol sy'n gysylltiedig â sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr."

Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion gyda'r nod o wella cydnabyddiaeth, effeithiolrwydd ac effaith craffu, gan gynnwys:

  • cynllunio gweithgarwch craffu'n well;
  • cysoni rhaglenni craffu â threfniadau gwella eraill a gwaith cyrff adolygu allanol;
  • gwella ansawdd ac ystod y wybodaeth a dderbynnir gan dimau craffu;
  • egluro cyfraniad aelodau gweithredol ac uwch swyddogion at waith craffu;
  • mynd ati i werthuso'r effaith y mae gwaith craffu yn ei gael yn gywir.

Dywedodd Mark Isherwood AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar lywodraeth leol, y dylai pob sir ddilyn esiampl Mynwy a chyhoeddi costau ar-lein:

"Dyw'r gwaith o graffu ddim yn unig yn waith gynghorwyr sy'n aelodau o'r wrthblaid, mae'n ddyletswydd ar yr holl aelodau.

"Ond y ffordd fwyaf hwylus i wella craffu yw trwy fwy o dryloywder."