Edrych 'nôl ar ddydd Mercher yn Eisteddfod yr Urdd

Heledd Gwyn Lewis Image copyright Arall
Image caption Heledd Gwyn Lewis yw Prif Ddramodydd yr Eisteddfod eleni

Diwrnod digon llwyd oedd hi yn y Bala ar drydydd diwrnod Eisteddfod yr Urdd Meirionydd 2014, efallai yn adlewyrchu'r teimladau wrth i nifer gofio am un o hoelion wyth yr ardal, Derec Williams, a fu farw yn 64 mlwydd oed.

Roedd nifer o deyrngedau iddo ar y Maes, gan gynnwys geiriau Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, amdano:

"Roedd ei gyfraniad i ieuenctid yr ardal hon, ac ym myd theatr cerdd, yn aruthrol. A phan oedd angen cyngor arnon ni, fel Eisteddfod, yn y maes hwn, neu unrhyw beth i wneud hefo sioeau cerdd, Derec oedd yn cael yr alwad ffôn gynta' pob tro."

Y Fedal Ddrama

Daeth 14,882 o bobl drwy'r gatiau ddydd Mercher a Phrif seremoni'r dydd oedd y Fedal Ddrama. Heledd Gwyn Lewis, merch o Gaernarfon, sy'n fyfyrwraig MA yng Nghaerdydd, ddaeth i'r brig, gyda'r beirniaid, Arwel Gruffydd a Huw Foulkes, yn ei disgrifio fel "dewin geiriau".

Roedd ei gwaith, 'Gwyddbwyll', yn gyfres o fonologau wedi'u seilio ar brofiad gweddw dyn oedd wedi crogi'i hun.

Bydd Heledd, a'r cystadleuydd a ddaeth yn ail - Elgan Rhys Jones, o Aelwyd CF1 yng Nghaerdydd - nawr yn cael hyfforddiant gan Theatr Genedlaethol Cymru a'r BBC.

Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill yn y Pafiliwn, roedd y gystadleuaeth Cân Actol i Flynyddoedd 6 ac iau, a nos Fercher, tro'r dawnswyr disgo oedd hi.

Am y tro cynta' erioed, doedd yna ddim rhagbrofion ac roedd pob cystadleuydd yn y categorïau hip hop a dawnsio stryd yn cael perfformio ar y llwyfan.

Image caption Dywedodd Llywydd y dydd, y ralïwr Gwyndaf Evans, fod adrodd yn Eisteddfod yr Urdd wedi ei helpu i ddod dros ei swildod pan yn blentyn

'Rhyfel a chymodi'

Hefyd yn ystod y prynhawn, cafodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru ei chyflwyno yn y Pafiliwn.

24 o bobl ifanc Meirionnydd oedd yn perfformio'r neges eleni, oedd ar y thema rhyfel a chymodi.

Criw o Ysgolion Uwchradd y Berwyn, Ardudwy, Tywyn, Moelwyn a'r Gader fu'n cydweithio gyda Chymdeithas y Cymod ar y neges. Dan arweiniad y Prifardd Mererid Hopwood, cafodd cerdd ei chreu am y tro cynta' erioed i gydfynd â'r neges.

Llywydd y Dydd oedd y gyrrwr rali Gwyndaf Evans, o Ddinas Mawddwy. Er iddo gydnabod nad oedd yn "fawr o Eisteddfodwr pan yn ifanc", ychwanegodd iddo "gael ychydig o lwyddiant wrth adrodd, er yn hogyn swil".

"Rwy'n sicr fod hynny wedi fy helpu i gael gwared ar ychydig o'r swildod hwnnw," meddai.

Straeon perthnasol