Galw am godi ymwybyddiaeth o beryglon baw cwn

Arwydd Gwastraff Cwn
Image caption Mae perchennog sy'n gadael i'w cwn faeddu - heb ei godi - yn wynebu dirwy o £75 yn y fan a'r lle.

Mae cynghorau Cymru wedi cosbi dros 700 o bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf am adael i'w cwn faeddu mewn llefydd cyhoeddus.

Ond ar raglen materion cyfoes Radio Cymru, Manylu yr wythnos hon mae ymgyrchwyr yn galw ar yr awdurdodau lleol i wneud mwy i ddatrys y broblem, ac i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r peryglon iechyd all ddatblygu.

Bu'r rhaglen yn recordio'n gudd ar draeth Dinas Dinlle ger Caernarfon gydag un ymgyrchydd sydd ar dân i berswadio perchnogion cwn i fod yn fwy cyfrifol.

Mae John Glyn Robinson yn plismona'r traeth ar ei liwt ei hun ac yn dweud fod angen dal perchnogion cwn sy'n troseddu a'u cosbi.

Sâl am fisoedd

"Dwi'n teimlo fod baw ci yn broblem ddifrifol. Bechod na fasa rhai perchnogion cwn yn ei gweld hi'n broblem hefyd.

"Dydi llawer ohonyn nhw ddim yn gweld unrhyw beth o'i le ac yn deud eu bod nhw wedi anghofio'u bagiau ar gyfer y baw neu ar ormod o frys. Mae 'na bob math o esgusodion."

Dywed cyngor Gwynedd eu bod nhw yn gwneud eu gorau glas i geisio gwneud pobl yn fwy ymwybodol o'u cyfrifoldebau.

Image caption Mae'r cynghorydd Dilwyn Morgan am godi ymwybyddiaeth o'r broblem

Meddai Clive Price ar ran y Cyngor: "Da ni yn patrolio, ond da ni ddim yn cael cuddio. Os y cawn ni wybodaeth gan bobl leol yn nodi lleoliad ac amser mi awn ni yno. Tydi hi ddim yn job o naw tan bump."

Un sy'n gwybod yn iawn am y salwch difrifol - toxicara - sy'n gallu deillio o gyffwrdd baw cwn ydi'r Cynghorydd Dilwyn Morgan o'r Bala.

Fe gafodd driniaeth ysbyty am chwe wythnos a bu'n sâl am fisoedd ar ôl dod i gysylltiad â baw ci wrth chwarae rygbi ac agor ei ben.

Dirwy

"Mi oedd gen i gur pen ac yn cysgu lot. Nai fyth anghofio'r bore Sul pan wnes i ddeffro a methu symud, methu symud un goes o flaen y llall. Mi oeddwn i'n meddwl mod i wedi cael strôc."

Erbyn hyn mae Dilwyn Morgan yn ymgyrchu i berswadio aelodau o'r cyhoedd i fod yn barod i ddweud pwy yn union sy'n gadael i'w cwn faeddu a chysylltu â'r awdurdodau i gwyno.

"Fel cynghorydd mae'n un o'r pethau mae pobl yn ei godi fwyaf hefo fi. Dwi wedi bod yn sôn am y broblem ar Facebook a Twitter ac mae'n ymateb yn anhygoel.

"Mae pobl wedi bod yn rhoi darnau o bapur drwy'r drws yn enwi pobl. "

Os ydi perchennog ci yn cael ei ddal yn gadael i'w gi faeddu - heb ei godi - mae'r gosb yn ddirwy o £75 yn y fan a'r lle.

Pe bai'r perchennog yn gwrthod talu neu yn cael ei ddal sawl gwaith yn troseddu mae'n bosib mynd a'r achos i'r llys ac yno mae'r ddirwy yn gallu bod hyd at £1,000.

Bydd rhaglen Manlylu i'w chlywed am 13:30 ar Radio Cymru ddydd Iau, gydag ail ddarllediad bnawn Sul am 17:00.