Fabianski yn arwyddo i'r Elyrch, a Le Fondre i Gaerdydd

Image copyright Getty Images
Image caption Daeth rhan fwyaf o gemau Fabianski y tymor diwethaf mewn cystadlaethau cwpan

Mae Abertawe wedi arwyddo'r gôl-geidwad Lukasz Fabianski o Arsenal.

Bydd y gwr 29 oed o Wlad Pwyl yn ymuno a'r Elyrch am ddim pan mae ei gytundeb gydag Arsenal yn dod i ben ym mis Mehefin.

Gêm olaf y golwr i Arsenal oedd yn eu buddugoliaeth yn rownd derfynol Cwpan yr FA yn erbyn Hull.

Bydd arwyddo Fabianski yn creu mwy o ddyfalu am ddyfodol Michel Vorm, sydd wedi cael ei gysylltu gyda Lerpwl yn ddiweddar.

Vorm sydd wedi bod yn ddewis cyntaf i'r Elyrch ers ymuno yn 2011.

Rheolwr Lerpwl, Brendan Rodgers brynodd Vorm yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, ac mae'n edrych am olwr i gymryd lle Simon Mignolet yn Anfield.

Hyd yn hyn, mae Abertawe wedi dweud nad oes unrhyw gais wedi ei wneud gan Lerpwl.

Linebreak
Adam Le Fondre Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Le Fondre 41 o goliau mewn 109 o gemau i Reading

Mae Caerdydd hefyd wedi ychwanegu chwaraewr arall at eu carfan, gyda'r ymosodwr Adam Le Fondre yn ymuno o Reading.

Mae'r gŵr 27 oed wedi arwyddo cytundeb 3 blwyddyn o hyd, ac ef yw'r pedwerydd ychwanegiad gan Ole Gunnar Solskjær dros yr Haf.

Sgoriodd Le Fondre 41 o goliau mewn 109 o gemau i Reading, gan gynnwys 12 yn Uwchgynghrair Lloegr yn 2012-13.

Dywedodd: "Mae'n gyfle mor wych i fi gael symud yma i Gaerdydd a chware i un o fy arwyr Ole Gunnar Solskjær, roedd yn gynnig gallwn i ddim wedi ei wrthod.

Mae Le Fondre yn ymuno a Federico Macheda, Guido Burgstaller a Javi Guerra fel aelodau newydd yr Adar Gleision.

Straeon perthnasol