Hatric i Davies yn ystod y gêm dreialu

Jonathan Davies breaks clear Image copyright Getty Images
Image caption Mi gafodd Jonathan Davies dair cais

Hatric o geisiau gan Jonathan Davies oedd uchafbwynt y gêm dreialu lle y dangosodd y Tîm Tebygol eu bod llawer cryfach na Thîm y Posib.

Mi gafodd yr asgellwr Jordan Williams ddwy gais a daeth cais yr un i Dan Biggar, Liam Williams a Scott Baldwin hefyd.

Y Tîm Tebygol oedd yn rheoli'r gêm o'r dechrau gyda'r ceisiau yn dod yn gyflym. Nhw oedd gyda mwyafrif y meddiant yn yr hanner cyntaf ac mi oedd profiad rhai o'r chwaraewyr i'w weld yn enwedig yn y sgrym.

34-0 oedd y sgor ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Scott Baldwin gais ystod y gêm

Wnaeth Tîm y Posib ddim cael unrhyw bwyntiau tan eu cais cyntaf a ddaeth awr ar ol i'r gêm gychwyn. Roedd yn gais unigol gwych oedd yn dangos potensial y mewnwr Gareth Davies.

Ond roedd y bwlch terfynol rhwng y ddau dîm yn sylweddol gyda'r sgor ar y chwiban olaf yn 55-7.

Cafodd y gêm ei chynnal yn Stadiwm Y Liberty cyn i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland gyhoeddi'r garfan fydd yn wynebu De Affrica ar daith ym mis Mehefin.

Straeon perthnasol