Morgannwg yn dathlu mewn gêm glos yn erbyn Sussex

Chris Cooke Image copyright Getty Images

Fe drawodd Chris Cooke 65 heb fod allan ar ei benblwydd yn 28 oed i helpu Morgannwg i ennill gêm glos yn erbyn Sussex.

Llwyddodd batiwr Lloegr, Matt Prior i sgorio 39 oddi ar 24 pel ac yn glos ar ei sawdl oedd Ed Joyce a sgoriodd 39.

Golygodd hyn fod cyfanswm Sussex yn 178 am saith.

Doedd hanner cant Jacques Rudolph ddim i weld yn ddigon wrth i Steffan Piolet gipio dwy wiced am 33.

Ond doedd Cook ddim am gael ei drechu ac mi gledrodd 11 pedwar ac un chwech gyda 31 pel. Mi wnaeth hyn alluogi Darren Sammy i sgorio naw gan ennill gêm gynhyrfus gyda'r bêl olaf.

Straeon perthnasol