Matthew Rees yn y garfan i Dde Affrica

Matthew Rees Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Rees wedi ennill 33 o gapiau i Gymru ers 2005

Bydd Matthew Rees yn teithio gyda charfan Cymru ar eu taith i Dde Affrica, fisoedd ar ôl iddo gwblhau triniaeth am ganser.

Yn ymuno a'r bachwr yn y garfan o 32 mae'r mewnwr Gareth Davies, y maswr Matthew Morgan, yr asgellwr Jordan Williams a'r olwr Steven Shingler.

Alun Wyn Jones fydd yn arwain y tîm, oherwydd anaf i Sam Warburton.

Er nad oedden nhw wedi chwarae yn y gêm dreialu nos Wener, mae lle i chwaraewyr o dimau Lloegr, George North a Paul James.

Ar y daith

Ers dychwelyd o gyfnod allan ym mis Mawrth, mae Rees wedi llwyddo i ddangos ei ddoniau i'r Gleision, ac fel capten y Tîm Posib nos Wener, i sicrhau lle ar y daith.

Matthew Morgan yw un o'r enwau nad oedd disgwyl ei gynnwys gan lawer, ond mae'r maswr 22 oed wedi ei gynnwys yn dilyn ei berfformiad addawol nos Wener.

Mae disgwyl i fewnwr y Scarlets, Gareth Davies wneud ei gais i ddechrau o flaen Mike Phillips ar y daith, wedi ei berfformiadau da gydol tymor y Pro12.

Bydd Steven Shingler yn ymuno a'i frawd Aaron ar y daith.

Cafodd y garfan ei chyhoeddi ar ôl y gêm dreialu yn Stadiwm y Liberty yn Abertawe nos Wener.

Er nifer o berfformiadau da, cafodd nifer o chwaraewyr anafiadau, i waethygu'r sefyllfa i Warren Gatland.

Aeth y bachwr Ken Owens, y canolwr Jamie Roberts a'r prop Samson Lee oddi ar y cae gydag anafiadau.

Er hynny, mae disgwyl i Owens a Roberts fynd ar y daith.

Bydd Cymru yn chwarae De Affrica mewn dwy gêm brawf ar y 14eg a'r 21ain o Fehefin.

Blaenwyr:

Gethin Jenkins, Paul James, Adam Jones, Rhodri Jones, Samson Lee, Aaron Jarvis, Ken Owens, Matthew Rees, Scott Baldwin, Alun Wyn Jones (capt), Luke Charteris, Jake Ball, Ian Evans, Aaron Shingler, Josh Turnbull, Dan Lydiate, Taulupe Faletau, Dan Baker.

Olwyr:

Mike Phillips, Gareth Davies, Rhodri Williams, Dan Biggar, James Hook, Steven Shingler, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Cory Allen, Alex Cuthbert, George North, Jordan Williams, Matthew Morgan, Liam Williams.

Straeon perthnasol