'Cymru angen arfer chwarae heb Bale'

Gareth Bale Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Tynnodd Gareth Bale allan o'r garfan i chwarae'r Iseldiroedd

Mae angen i reolwr Cymru ddechrau arfer hefo gwneud heb seren tîm Cymru, Gareth Bale ar gyfer gemau cyfeillgar yn y dyfodol, yn ôl un o gyn reolwyr y tîm.

Dywedodd Terry Yorath ei fod yn poeni na fydd y Galactico diweddaraf ar gael i Chris Coleman yn y dyfodol, ers i'r ymosodwr dynnu allan o garfan Cymru i chwarae'r Iseldiroedd.

Tynnodd Bale allan o'r gêm ar Mehefin 4 ar ôl iddo gael ei effeithio gan anaf i'w goes am sawl wythnos, yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd Yorath: "mae'n sefyllfa mae angen i Chris Coleman ddod i arfer hefo.

"Digwyddodd yr un peth i fi gyda Ryan Giggs yn tynnu'n ôl o gemau cyfeillgar llawer iawn o weithiau.

"Y casgliad oedd hefo Ryan, cyn belled ei fod ar gael i gemau Pencampwriaeth Ewrop a Cwpan y Byd yna roedd hynny'n iawn a dwi'n meddwl y bydd Chris yn wynebu'r un sefyllfa."

'Rheolwyr ar fai'

Ond dywedodd Yorath, oedd yn reolwr Cymru rhwng 1988 a 1993, nad chwaraewyr sydd ar fai.

"Dwi'n meddwl mai'r rheolwyr sydd nid y chwaraewyr," meddai. "Dwi'n meddwl eu bod nhw'n rhoi pwysau i beidio chwarae."

Chwaraeodd Bale ran allweddol ym muddugoliaeth Real Madrid yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y penwythnos diwethaf, gan sgorio gôl mewn amser ychwanegol.

Er iddo dynnu'n ol, mae Yorath yn gobeithio y bydd Bale yn gallu ail-greu ei berfformiadau da yng nghrys gwyn Madrid, yng nghrys coch Cymru.

"Mae wedi cael tymor gwych draw yna," meddai.

"Galla' i ddim cofio chwaraewr o Brydain yn mynd draw yna ac yn cael tymor mor dda.

"Mae'n chwaraewr gwych ac mae'n gallu chwarae yn unman ar y cae. Mae'n chwarae yn hynod o dda a dwi'n gobeithio y bydd yn gallu chwarae ym mhob gem ryngwladol."

Yr Iseldiroedd v Cymru, Amsterdam, Mehefin 4, 19:30

Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Connor Roberts (heb glwb), Owain Fon Williams (Tranmere Rovers)

Amddiffynwyr: Chris Gunter (Reading), James Chester (Hull City), Paul Dummett (Newcastle United), Danny Gabbidon (Crystal Palace), Declan John (Caerdydd), Lewin Nyatanga (Barnsley), Ashley Richards (Abertawe), Neil Taylor (Abertawe)

Canol Cae: Joe Allen (Lerpwl), Emyr Huws (Manchester City), Owain Tudur Jones (Hibernian), Andy King (Caerlyr), Tom Lawrence (Manchester United), Joe Ledley (Crystal Palace), David Vaughan (Sunderland), Jonathan Williams (Crystal Palace)

Ymosodwyr: Simon Church (Charlton Athletic), Jermaine Easter (Millwall), Hal Robson-Kanu (Reading), George Williams (Fulham).

Straeon perthnasol