Deifwyr ar goll o Ynys Lawd, Caergybi wedi eu darganfod

Bad Achub
Image caption Roedd y Bad Achub allan yn chwilio am y deifwyr brynhawn Sul

Mae Gwylwyr y Glannau yn dweud bod dau ddeifiwr oedd ar goll oddi ar arfordir Ynys Mon wedi eu darganfod.

Roedd badau achub a hofrennydd yr awyrlu yn rhan o'r gwaith o chwilio am y ddau oddi ar arfordir Ynys Lawd, Caergybi.

Dywedodd llefarydd bod y deifwyr wedi eu cludo i Ysbyty Gwynedd, ond eu bod mewn "cyflwr da".

Nid yw manylion yr achos yn glir hyd yn hyn.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 13:00 ddydd Sul ar ôl i'r ddau fethu a dychwelyd i'w cwch.

Dywedodd y llefarydd bod y deifwyr wedi eu darganfod gan yr hofrennydd am tua 18:00.