Chwe wiced i Topley yn erbyn Morgannwg

Criced

Gorffennodd Morgannwg ar 244 wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan gan Essex ar ddiwrnod cyntaf eu gêm yn ail adran y Bencampwriaeth LV.

Penderfynodd Morgannwg i fatio ar ddechrau'r dydd, ond fe gollon nhw wiced gynnar yn yr ail belawd, wrth i Reece Topley fowlio Tom Lancefield.

Cymrodd y bowliwr 20 oed wiced arall cyn cinio, wrth i Ben Wright gael ei ddal am 13.

Daeth Morgannwg yn ôl yn gryfach ar ôl yr egwyl, wrth i Will Bragg basio 500 o rediadau yn y bencampwriaeth ar ei ffordd i 93.

Roedd Chris Cooke yn bartner cadarn yn y pen arall, gan sgorio 68.

Ond Topley ddaeth a batiad Morgannwg i ben, wrth iddo ddychwelyd ar ôl yr egwyl brynhawn i gymryd pedair wiced arall.

Collodd Morgannwg eu chwe wiced olaf am ond 53 o rediadau, gyda Cooke y dyn olaf allan.