Domino's i greu 35 swydd wrth agor cangen ym Mae Colwyn

Domino's Pizza
Image caption Mae Domino's Pizza yn creu 35 o swyddi ym Mae Colwyn

Mae cwmni Domino's Pizza yn bwriadu creu 35 o swyddi llawn a rhan amser ym Mae Colwyn wrth agor cangen yno.

Gobaith y cwmni yw agor bwyty ar Ffordd yr Orsaf cyn i ymwelwyr tymor yr haf gyrraedd.

Mae'r cyhoeddiad yn cael ei ystyried yn 'hwb' i economi'r dref, sydd wedi bod yn rhan o brosiect adfywio gwerth £52miliwn.

Dywedodd Rupert Moon, cyn chwaraewr rygbi Cymru, sy'n llysgennad i Fae Colwyn: "Mae hwn yn brif frand arall o'r stryd fawr sy'n cydnabod potensial Bae Colwyn.

"Mae'r prosiect adfywio wedi rhoi hwb mawr i'r ardal, gan ddenu pobl newydd yma i fyw a gweithio a hefyd ein rhoi ar y map i ymwelwyr."

Meddai llefarydd ar ran Pizza Group PLC Domino: "Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael caniatâd cynllunio i agor siop ym Mae Colwyn .

"Mae'r gwaith wedi dechrau'n barod, ac rydyn ni'n gobeithio gallu darparu pizza ffres i drigolion Bae Colwyn a'r ardaloedd o gwmpas yn y dyfodol agos."

Ychwanegodd y llefarydd bod y cwmni'n awyddus i reolwyr eu canghennau chwarae rhan flaengar yn eu cymuned trwy gefnogi elusennau, grwpiau a digwyddiadau lleol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.