Cofio gwaith y newyddiadurwr 'dewr' Gareth Jones

Gareth Jones (hawlfraint www.garethjones.org) Image copyright www.garethjones.org
Image caption Fe gafodd Gareth Jones gyfweliad â gweddw Lenin. Ysgrifennodd am awyren yr oedd ynddi a gludai hefyd Hitler ac arweinwyr Natsïaidd eraill.

Mae teulu'r newyddiadurwr Gareth Jones, a dynnodd sylw'r byd at y newyn enbyd yn yr Wcráin yn ystod y 1930au wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw ei fod "yn cael y gydnabyddiaeth haeddiannol o'r diwedd ar ôl cael ei anwybyddu am 70 mlynedd".

Dywedodd Nigel Colley, ei or-nai, fod yr hanes "fel stori tylwyth teg, daioni yn erbyn drwg, Dafydd yn erbyn Goliath".

Roedd Gareth Jones yn un o'r newyddiadurwyr gorllewinol cyntaf i adrodd am Newyn Mawr 1932-33 yn yr Wcráin, sef yr Holodomor, mewn papurau newydd fel The New York Evening Post, Chicago Daily News, The London Evening Standard, a'r Manchester Guardian.

'Sgŵp rhyfeddol'

Yn ôl Mr Colley, 53 oed sy'n byw yn Newark, Sir Nottingham, roedd yn "sgŵp rhyfeddol" - "sawl erthygl papur newydd sy'n cael eu trafod dros 80 mlynedd yn ddiweddarach?"

Ychwanegodd, "hyd yn oed wyth degawd ar ôl datgeliad Gareth o'r Holodomor, mae'n cael ei ddyfynnu mewn perthynas â'r trafferthion ar hyn o bryd allan yn nwyrain yr Wcráin".

Oherwydd bod Stalin mor benderfynol o weithredu ei Fesur Pum Mlynedd roedd yna newyn mawr yn yr Wcráin. Bu farw rhwng pump a 10 miliwn o boblogaeth y wlad rhwng 1932 a 1933.

Roedd Gareth, gafodd ei fagu yn Y Barri, yn benderfynol pan ymwelodd â'r wlad i addysgu'r byd o'r hyn oedd yn digwydd yno.

Yn ôl Mr Colley, mae'n debyg bod ei diddordeb yn y wlad a'r iaith wedi ei ysgogi gan ei fam, Annie Gwen Jones. Roedd hi wedi gweithio am dair blynedd yn yr Wcráin i deulu John Hughes, sylfaenydd dinas Hughesovka.

Cafodd Gareth ei addysgu yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a Choleg y Drindod Caergrawnt lle'r oedd yn fyfyriwr ieithoedd disglair. Dysgodd Rwsieg cyn mynd allan i'r Wcráin.

Yno daeth wyneb yn wyneb ag amgylchiadau trychinebus ac yn 1933, ar ei drydydd ymweliad, penderfynodd ysgrifennu cyfres o erthyglau i amlygu'r hyn oedd yn mynd ymlaen yno.

'Risg'

Dywedodd ei or-nai, "roedd yn ddewr, yn gwybod ei fod yn cymryd risg. Roedd yn glyfar wrth ddweud pethe braf mewn cardiau post adref - a oedd, fe wyddai, yn cael eu darllen gan swyddogion yn y wlad, ond yn cofnodi'r gwir yn ei ddyddiaduron".

Cafodd nifer o'i erthyglau, oedd yn ceisio datgelu troseddau'r Bolshevik yn erbyn dynoliaeth, eu hatal ac fe gafodd ei ddirmygu a'i wawdio gan ei gydweithwyr a oedd yn gwadu'r hil-laddiad, yn arbennig gan Walter Duranty, gohebydd Moscow y New York Times ac enillydd gwobr Pulitzer.

Cafodd ei lofruddio yn 1935, mewn amgylchiadau amheus yn ôl ei deulu, ym Mongolia wrth iddo ymchwilio i fwriad Japan i ehangu ei thiriogaeth.

Wedi 16 niwrnod yn nwylo'r Chiniaid cafodd ei ladd, ar drothwy ei benblwydd yn 30 oed.

Cafodd plac ei ddadorchuddio yn 2006 yn Yr Hen Goleg yn Aberystwyth lle bu Gareth yn fyfyriwr i gofio am ei gyfraniad.

Yn ystod y seremoni, dywedodd llysgennad yr yr Wcráin: "Dylai gael ei weld fel arwr am yr hyn a wnaeth ac am roi ei fywyd mewn perygl."

Mae nifer o gyfrolau wedi eu hysgrifennu amdano erbyn hyn, ac yn 2011 fe wnaeth teulu Gareth Jones gyflwyno ei ddyddiaduron i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Image copyright www.garethjones.org
Image caption Erthygl Gareth yn y London Evening Standard, Mawrth 31, 1933, o'i lyfr lloffion ei hun
Image copyright Archifau Tŷ'r Cyffredin
Image caption Llythyr Gareth Jones at y cyn Brif Weinidog David Lloyd George o Berlin ar 27 Mawrth, 1933 yn dweud wrtho bod newyn yn yr Undeb Sofietaidd. Yn y llythyr, dywedodd: “The situation is so grave, so much worse than in 1921 that I am amazed at your admiration for Stalin.”
Image copyright www.garethjones.org
Image caption Llun ym meddiant Gareth Jones o rai o drigolion yr Wcráin
Image copyright www.garethjones.org
Image caption 'Gelynion y Cynllun 5 mlynedd' - o gasgliad Gareth Jones o bosteri propaganda yr Undeb Sofietaidd.
Image copyright www.garethjones.org
Image caption Trwydded deithio Gareth Jones
Image copyright www.garethjones.org
Image caption Un o'r lluniau olaf ohono cyn iddo gael ei lofruddio ym Mongolia.
Image copyright www.garethjones.org
Image caption Y plac tairieithog (Saesneg, Cymraeg ac Wcreineg) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn y llun, o'r chwith i'r dde, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol Aled Gruffydd Jones, Dr Ray Gamache, awdur y gyfrol 'Gareth Jones - Eyewitness to the Holodomor', a Nigel Colley, gor-nai Gareth Jones.

Bydd S4C yn darlledu rhaglen 'Y Gohebwyr: Guto Harri' ar nos Sul 8 Mehefin am 8.00pm. Yn y rhaglen mae Guto Harri yn mynd i'r Wcráin, Efrog Newydd, o amgylch Cymru a Llundain i ddilyn hanes bywyd Gareth Jones, a bydd hefyd "yn ceisio dod at wraidd gwirionedd llofruddiaeth ryfedd y gŵr o'r Barri ym Mongolia".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.