Cymry Llundain yn yr Uwch Gynghrair

Mae Clwb Rygbi Cymry Llundain yn ôl yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi buddugoliaeth yn erbyn Bryste yn rownd derfynol y Bencampwriaeth nos Fercher.

Wedi gêm agos ar y Memorial Ground ym Mryste, yr Alltudion oedd yn fuddugol o 21 pwynt i 20. Roedd gan Cymry Llundain 19 pwynt o fantais ar ôl y cymal cyntaf yr wythnos diwethaf.

Image copyright PA
Image caption Justin Burnell a'r capten, Tom May, yn dathlu ar y Memorial Ground

Ar un adeg roedd hi'n edrych fel petai Bryste am ddileu mantais y Cymry o'r gêm gyntaf yn llwyr, gyda thri chais gan Andy Short, Mitch Eadie ac Adam Hughes.

Ond llwyddodd Carl Kirwan a Seb Stegmann i groesi'n hwyr i'r ymwelwyr i sicrhau y bydd y Cymry yn Llundain yn dychwelyd i'r Uwch Gynghrair ar ôl tymor yn unig ar y lefel is. 48 pwynt i 28 oedd y sgôr dros y ddau gymal.

Gall y Cymry alltud edrych mlaen i groesawu cewri fel y Saracens, Caerlŷr a Northampton i Stadiwm Kassam yn Rhydychen y tymor nesaf.

Ffau'r Llewod

Mae gan Glwb Rygbi Cymry Llundain hanes a statws arbennig yn y byd rygbi. Ers ei sefydlu yn 1885, mae'r clwb wedi cyfrannu 177 o chwaraewyr i dîm cenedlaethol Cymru a 43 i dîm y Llewod.

Roedd saith o chwaraewyr y clwb yn rhan o daith enwog y Llewod i Seland Newydd yn 1971. Ymhlith y cyn-chwaraewyr mae rhai o enwau mwyaf yr 1970au gan gynnwys JPR Williams, John Dawes a Mervyn Davies.

Un arall o'r mawrion yno oedd Gerald Davies, asgellwr y clwb o 1968 i 1974.

Image caption Gerald Davies, un o enwogion Cymry Llundain

Mae gan y clwb le arbennig yng nghalon Gerald Davies:

"Roeddwn yno ar adeg bwysig iawn yn fy ngyrfa. Roeddwn yn byw yn West Sussex ar y pryd, ac yn gefnogwr o'r clwb ac yn edmygu John Dawes y capten. Roedd y clwb yn chwarae rygbi arbennig iawn; prydferth ac ymosodol.

"Bob yn ail wythnos roedd Old Deer Park (cyn gartref y clwb) yn troi'n pilgrimage i'r holl Gymry oedd yn byw yn y ddinas.

"Roedd ysbryd arbennig iawn yno - nid yn unig ymysg y chwaraewyr, ond roedd perthynas agos gyda'r cefnogwyr yn ogystal.

"Mae'n dda gweld y clwb yn ôl yn yr ucheldiroedd. Roedden nhw'n anlwcus i fynd lawr y llynedd, ac roedden yn benderfynol iawn i ennill eu lle yn ôl yn yr Uwch Gynghrair."

Yn fwy diweddar bu chwaraewyr rhyngwladol fel yr asgellwr Tom Shanklin a chyn gapten Cymru, Colin Charvis.

Yn 2006 roedd sôn y byddai'r clwb yn gadael strwythur rygbi Lloegr ac ymuno â'r Gynghrair Celtaidd fel y pumed rhanbarth Cymreig. Ond fe arhosodd y clwb yng nghyfundrefn Lloegr er mwyn cyrraedd y prif gynghrair.

Trafferthion

Roedd y clwb mewn trafferthion enfawr yn 2009 ac mi gafodd ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr. Ond wedi iddo gael ei brynu mi gafodd y clwb ganiatâd i barhau yn y Bencampwriaeth ar yr amod eu bod yn derbyn cosb o bump o bwyntiau yn y tabl.

Er bod y clwb yn hollol broffesiynol bellach, gyda'r chwaraewyr yn rhai llawn amser, maen nhw yn dal i geisio cadw naws amatur gyda llawer o ddigwyddiadau cymunedol yn digwydd yno.

Yn 2012 roedd sibrydion y byddai dyrchafid Cymry Llundain i'r Uwchgynghrair yn arwain i rannu stadiwm â chlwb pêl-droed Crystal Palace.

Roedd pryderon na fydde Stadiwm Kassam yn addas ar gyfer Uwchgynghrair Lloegr, ond mi gawson nhw ganiatâd i ddefnyddio'r stadiwm yn dilyn apêl gyfreithlon gan y clwb.

Dyfodol disglair?

Y Cymro Justin Burnell yw'r prif hyfforddwr ar hyn o bryd, gyda Gordon Ross, maswr y clwb a chyn chwaraewr Yr Alban, yn ei gynorthwyo. Cymerodd Burnell yr awenau wedi i Lyn Jones, yr hyfforddwr o Gwmafan, adael i hyfforddi Dreigiau Casnewydd Gwent.

Yn y blynyddoedd diweddar mae Cymry Llundain wedi gwneud enw i'w hunain o gael rheng flaen gref a rheng ôl hynod weithgar.

Ond roedd buddugoliaeth o 20 pwynt dros Fryste dros ddau gymal yn dangos bod mwy o ddyfnder i'w gêm. Er hynny mae disgwyl i Justin Burnell gryfhau'r garfan cyn dechrau'r tymor nesaf yn yr Uwch Gynghrair.

Dywed Gerald Davies: "Dwi'n mawr obeithio y bydd y clwb yn dod yn ganolfan i'r Cymry alltud sy'n byw yn Llundain, a hefyd y caiff y clwb gefnogaeth gan bobl yng Nghymru."