Honiadau am drefnu canlyniadau pêl droed yng Nghymru

baneri Ewrop Image copyright AFP
Image caption Cafodd y cyhuddiadau eu cyflwyno i Senedd Ewrop

Mae honiadau wedi eu gwneud gan Federbet, sefydliad sy'n ymchwilio tueddiadau betio amheus, am nifer o gemau pêl droed yn cynnwys rhai yng Nghymru'r tymor diwethaf.

Mae Federbet, sefydliad o wlad Belg, wedi cyflwyno adroddiad i Senedd Ewrop, sy'n sôn fod canlyniadau wedi eu trefnu.

Roedd y gemau dan sylw Federbet mewn cynghreiriau ar draws Ewrop, gan gynnwys dwy gêm yn Uwchgynghrair Cymru dros yr un penwythnos ym mis Rhagfyr 2013.

Honnodd Federbet bod yna rhywbeth amheus yn y gemau rhwng Y Bala a Gap Cei Connah ar 13 Rhagfyr a Phort Talbot a Chaerfyrddin ar 14 Rhagfyr.

Mae'r clybiau wedi ymateb gan ddweud eu bod yn flin eu bod wedi eu pardduo gan y cyhuddiadau.

Dim amheuon

Mae Cymdeithas Pêl Droed Cymru a'r Uwchgynghrair am gysylltu gyda Federbet i drafod yr honiadau a sut cawsent eu gwybodaeth.

Meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas: "Nid ydym wedi derbyn unrhyw ohebiaeth neu wybodaeth gan Federbet mewn perthynas â'r gemau hyn.

"Mae pob gêm Uwch Gynghrair Cymru yn cael ei fonitro, os oedd yna unrhyw amheuon mi fyddai'r Gymdeithas yn gwybod ar unwaith.

"Roedd yr adroddiad a dderbyniwyd yn gynharach yn y tymor, yn awgrymu nad oedd unrhyw amheuon am y gemau yma.

"Rydym â pherthynas dda gydag Uned Betio Chwaraeon yn y Comisiwn Gamblo, ac nid ydynt wedi derbyn unrhyw wybodaeth mewn perthynas â'r gemau a nodwyd yn yr adroddiad Federbet."

Aeth y gymdeithas ymlaen i ddweud bod pob chwaraewr cofrestredig yng Nghymru yn ymwybodol o reolau ynglŷn â betio a threfnu canlyniadau.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.