Gem gyfartal i Forgannwg

Chris Cooke Image copyright Getty Images

Er i fatwyr Morgannwg i gyd fod allan am 250 yn eu hail fatiad bu'n rhaid i'r tîm cartref fodloni ar gem gyfartal.

Roedd Essex agen 215 oddi ar 24 pelawd i ennill ond daeth glaw i amharu ar y chwarae.

Llwyddodd 79 o rediadau gan Jim Allenby gynyddu sgôr Morgannwg o 188-8 i 250, hynny gyda chymorth Michael Hogan (24).

Fe ddaeth y glaw gyda Essex ar 28-2 ar ôl chwe phelawd.

Sgôr ar ddiwedd y diwrnod olaf:

Morgannwg 244 & 250

Essex 280 & 28-2

Essex 10 pwynt, Morgannwg 9 pwynt

Straeon perthnasol