Organau: Dilyn esiampl Cymru?

Bilingual organ donor card
Image caption Cymru fydd y wlad gyntaf ym Mhrydain i gyflwyno deddf i drio cynyddu nifer yr organau

Mae ysgrifennydd grŵp sy'n cynrychioli cleifion arennau yn y gogledd wedi galw ar i lywodraethau holl wledydd Prydain i ddilyn esiampl Cymru, a chyflwyno deddf i gynyddu nifer yr organau sydd ar gael ar gyfer eu trawsblannu.

Dywedodd Ken Jones, ysgrifennydd cymdeithas cleifion arennau Ysbyty Gwynedd, wrth raglen Manylu BBC Cymru y bydd y ddeddf yng Nghymru, sy'n dod i rym y flwyddyn nesaf, yn fodd o achub bywydau.

Bydd y ddeddf newydd yn caniatáu ysbytai i gymryd yn ganiataol fod hawl ganddyn nhw i gymryd organau os yw cleifion yn marw, oni bai eu bod nhw wedi dweud nad ydyn nhw eisiau eu rhoi.

Hefyd ar raglen Manylu bydd manylion am gyfeillgarwch rhyfeddol, sy'n rhoi siawns am fywyd newydd i wraig o Ynys Môn.

Bregus

Mae Anita Hughes, 46 oed o'r Fali yn gaeth i beiriant dialysis dair gwaith yr wythnos yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ers i'w harennau fethu bum mlynedd yn ôl o ganlyniad i glefyd siwgr.

Trawsblaniad yw'r unig obaith o fedru gwella ei hiechyd, ac oherwydd bod ei chyflwr hi'n fregus roedd meddygon o'r farn y byddai organ gan berson byw, yn hytrach na rhywun wedi marw yn fwy tebygol o lwyddo.

Image caption Mae Miriam Sanders am roi ei haren i'w ffrind

Doedd neb o'i theulu yn gallu cynnig aren iddi.

Ond pan ddarllenodd ei hen ffrind ysgol Miriam Sanders am ei sefyllfa ar wefan Facebook, fe aeth hi ati i fynd am brofion i weld a fedrai hi gynnig aren.

"Dyma fi'n meddwl sut beth fyddai i Dion (mab Anita ) golli ei fam; sut beth fyddai i Dion gael ei fam yn ôl? Dyma fi'n cysidro fyddai y nerth gen i i fynd ymlaen i wneud y profion," meddai Miriam.

Mae'r ddwy wedi cael gwybod bod eu gwaed a'i meinwe yn gydnaws a'i gilydd, ac maen nhw bellach yn aros am ddyddiad ar gyfer llawdriniaeth.

Mae'r rhaglen hefyd yn siarad gyda Ben Griffiths, 16 o Langyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin, sydd wedi cael aren gan ei fam, Einir.

Trawsblannu

"Cyn y trawsblaniad oeddwn i'n methu gwneud llawer, oedd dim lot o egni da fi, o'n i'n methu bwyta. Ond nawr, dwi'n gallu bwyta, dwi'n llawn egni, a fi'n gallu gwneud llawer o bethe nawr," meddai Ben.

Fydd pawb sydd angen trawsblaniad fodd bynnag ddim yn cael un. Mae cymhlethdodau meddygol yn rhwystro rhai, ond mae 'na brinder organau ar gael i'w trawsblannu hefyd.

Erbyn diwedd y flwyddyn nesa, fe fydd gan ysbytai hawl i gymryd yn ganiataol y ca' nhw ddefnyddio organau pobol sydd wedi marw - oni bai eu bod nhw wedi dweud nad ydyn nhw eisiau eu rhoi.

Mae Ken Jones, ysgrifennydd cymdeithas cleifion arennau Ysbyty Gwynedd yn croesawu'r ddeddf, ac yn sicr y bydd hi'n fodd o achub bywydau.

Dydi taith y Mesur Trawsblannu Dynol drwy'r Senedd ym Mae Caerdydd fodd bynnag, ddim wedi bod yn rhwydd.

Mae nifer o arweinwyr crefyddol wedi mynegi gwrthwynebiad, ar y sail na ddylai llywodraeth ymyrryd yn y penderfyniad ynglŷn â rhoi organ ai peidio.

Tra bod Anita wedi cael addewid o aren, mae dros ddau gant o bobol eraill yng Nghymru ar restr aros, heb sicrwydd a fyddan nhw'n cael llawdriniaeth.

Bydd rhaglen Manylu i'w chlywed ar Radio Cymru, dydd Iau am 12:30 a dydd Sul am 17:30.