Iaith: pryder am broses ymgynghori

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Image caption Bydd y safonau newydd yn effeithio cyrff fel y parciau cenedlaethol a chynghorau sir

Mae nifer o gyrff sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg wedi beirniadu Llywodraeth Cymru gan ddweud nad ydi'r llywodraeth wedi ymgynghori ynglŷn â safonau drafft mewn perthynas â'r iaith.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddarpar safonau ym mis Ionawr, a fydd, maes o law yn dod yn rheoliadau y bydd rhaid i gyrff fel cynghorau sir, y parciau cenedlaethol a'r llywodraeth eu gweithredu.

Ers mis Ionawr mae Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn cynnal ymchwiliad i briodoldeb gweithredu'r safonau, ac yn ystod y broses honno fe gwynodd nifer o fudiadau wrthi nad oedd Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori a nhw ynglŷn â'r darpar safonau.

Yn ol Siân Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith dydy'r broses "ddim wedi dilyn trefn arferol y llywodraeth ynghylch ymgynghori".

Ond mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod y feirniadaeth gan ddweud fod y broses wedi bod yn un agored.

Y broses yn gymysglyd

Ar y Post Cyntaf dywedodd Siân Howys: "Oedden nhw'n cael eu cyhoeddi ar wefan y llywodraeth. Oedd rhaid i chi wedyn fynd i wefan y comisiynydd.

"Beth oedd ar wefan y comisiynydd oedd holiadur a dydyn ni ddim yn credu bod cynwys yr holiadur wedi bod yn ddigonol.

"Felly oedd rhaid i Gymdeithas yr Iaith a mudiadau dathlu'r Gymraeg fynd ati eu hunain i annog trefn o ebostio ac o fedru ymateb i'r safonau."

Yn ol Rebecca Williams o undeb athrawon UCAC mae na gam pwysig yn y broses wedi ei golli. Mae'n dweud bod angen i'r safonau newydd fod yn glir.

"Dw i'n credu mai'r unig ffordd o gyrraedd y sefyllfa yna yw trwy ymgynghori agored a chlir gyda'r cyhoedd, rhywbeth sydd ddim wedi digwydd yn yr achos yma."

Proses "hollol agored"

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yn dweud bod na ddigon o gyfle wedi bod i bobl i ddweud eu dweud. Maen nhw hefyd yn pwysleisio nad rhain yw'r safonau terfynol.

"Rydyn ni'n Llywodraeth dryloyw ac roedd yr ymchwiliad i'r Safonau drafft yn broses hollol agored.

"Fe wnaeth y cyhoedd a'r cyrff dan sylw (sef yr awdurdodau lleol, y parciau cenedlaethol, a gweinidogion Cymru) fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i fynegi barn - ac mae adroddiadau Comisiynydd y Gymraeg yn dangos hynny.

"Mae'n bwysig iawn nodi hefyd mai safonau drafft yw'r rhain. Yn unol â'n haddewid, rydyn ni wrthi'n ystyried yn ofalus yr holl sylwadau a ddaeth i law, ac fe fyddwn ni'n gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r Safonau cyn gosod y Rheoliadau.

"Fe fyddwn ni'n cwrdd â Mudiad Dathlu'r Gymraeg yr wythnos nesaf i drafod eu pryderon ac i roi cyfle pellach iddyn nhw gyfrannu i'r broses."

Straeon perthnasol