D-Day: Ymgyrch 'dyngedfennol' yr Ail Ryfel Byd

Awyren Hercules C-130 Image copyright AFP
Image caption Awyren Hercules C-130 yn hedfan dros faneri ar draeth Sword yn Ouistreham, gogledd Ffrainc.

Roedd croesi'r Sianel draw am Normandi fel camu'n ôl mewn amser. Hen jîps milwrol sy'n achosi'r tagfeydd, a daw'r sŵn byddarol o awyren Dakota sy'n hedfan uwchben.

Mae GI's yn crwydro'r strydoedd.

Croeso i 1944, a'r bererindod flynyddol i Normandi. Bydd yna ddigwyddiadau mwy na'r arfer eleni er mwyn cofio D Day, 70 mlynedd yn ôl.

Yn 1944 roedd William Pritchard, o Ruthun, wedi ei leoli yn Southampton. Ei waith oedd cyflenwi milwyr ag offer ar gyfer Operation Overlord. Mae'r olygfa wrth i'r armada adael y porthladd yn fyw yn y cof hyd heddiw.

"Doeddech chi ddim yn gweld y dŵr am gychod. Roedd 'na gannoedd ohonyn nhw...wna' i fyth anghofio," meddai.

"Roeddech chi'n clywed y gliders a'r paratroops yn mynd dros eich pen. Y sŵn - roedd e'n arswydus. Roeddech chi'n gofyn "beth sy'n mynd i ddigwydd?""

5,000 wedi'u lladd

Fe gymerodd y glanio flynyddoedd o gynllunio gofalus a chyfrinachol. Tra bod yr Almaenwyr yn disgwyl ymosodiad yn ardal Calais, targedu pump o draethau ar hyd 50 milltir o arfordir Normandi i'r gorllewin wnaeth y Cynghreiriaid.

Roedd yr Americanwyr i anelu am draethau gafodd eu galw'n Utah ac Omaha. Cyfrifoldeb lluoedd Prydain oedd traethau Gold a Sword. Canada oedd i dargedu traeth Juno.

Oherwydd tywydd garw fe gafodd y cyfan ei ohirio am 24 awr. Yna daeth gorchymyn gan y Cadfridog Dwight D. Eisenhower i ymosod. Ar dir, môr ac yn yr awyr roedd hi'n un o'r ymgyrchoedd mwya' mentrus mewn hanes. Glaniodd 156,000 o filwyr yn Normandi ar 6 Mehefin, 1944.

Nid D-Day oedd diwedd y rhyfel, ond mae'n cael ei ystyried fel dechrau'r diwedd i'r Natsiaid.

"Mae'r ymgyrch yma'n gwbl dyngedfennol i hanes yr Ail Ryfel Byd," yn ôl yr hanesydd Hafin Mathias. "Mae'n gwbwl dyngedfenol i'r rhyddid sydd gyda ni heddiw".

"Ar ôl cipio Normandi...fe lwyddon nhw [y Cynghreiriaid] i wthio'r Almaenwyr yn ôl. Fe lwyddon nhw wedyn i ryddhau Paris tua diwedd Awst 1945, a mater o amser oedd hi wedyn cyn diwedd y rhyfel."

Ond fe gostiodd rhyddid Ewrop yn ddrud. Yn ôl un amcangyfrif, fe gafodd dros 5,000 o Gynghreiriaid eu lladd ar D-Day yn unig.

Image caption Doedd Bruce Coombes, o 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig, erioed wedi bod allan o Gymru cyn yr Ail Ryfel Byd

'Oedd e werth e?'

Milwr gyda 6ed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig oedd Bruce Coombes, o Langyndeyrn, ger Caerfyrddin. Roedd hi'n rhai wythnosau wedi D-Day cyn iddo lanio ar draeth Sword.

"Do'n i ddim wedi bod mas o Gymru...dim ond i Borthcawl gyda'r Ysgol Sul."

"Roedd e'n experience ofnadwy".

Erbyn i'r Almaenwyr ildio gan ddod â'r rhyfel i ben, roedd Bruce Coombes wedi brwydro ei ffordd ar draws gogledd Ewrop i Ddenmarc. Mae'n disgrifio'r hyn welodd e yn ystod y flwyddyn honno fel 'cyflafan'.

"Ro'ch chi'n gweld pob sort o wounds...llosgi, breichiau off, coesau off."

Oedd y cyfan werth e, gofynnais?

"Dishgwl arno fe nawr, na."

Gyda'r traethau'n euraid a'r awyr yn las yn Normandi, efallai bod tanciau rhyfel yn rhuo a lifrau milwrol ymhobman i nodi'r 70 mlwyddiant, ond does dim all ailgreu'r erchyllderau.

Straeon perthnasol