Prif Weinidog yn cofio Cymry D-Day

Awyren ar draeth Sword
Image caption Bydd prif weinidogion o 18 o wledydd yn y seremoni ar Draeth Sword yn ddiweddarach

70 mlynedd ers i filoedd o filwyr o Brydain lanio ar draethau Ffrainc fel rhan o gyrch D-Day, mae Prif Weinidog Cymru yn cymryd rhan mewn gwasanaeth coffa arbennig ddydd Gwener.

Mae cyn-filwyr o Gymru wedi teithio i Normandi ar gyfer y gwasanaeth, ac mae prif weinidogion o wledydd ar draws y byd hefyd yn bresennol.

Mae Carwyn Jones wedi bod yn y seremoni goffa yn Bayeux, cyn y brif seremoni ryngwladol ar Draeth Sword.

Cyn y gwasanaeth, dywedodd Mr Jones ei fod yn bwysig cofio aberth y milwyr, a phasio'r hanes ymlaen i genedlaethau'r dyfodol.

600 o Gymry

Y Frenhines fydd yn arwain y brif seremoni ryngwladol ar Sword Beach, lle bydd prif weinidogion o 18 gwlad a miloedd o gyn-filwyr yn dod at eu gilydd i gofio.

Bydd 500 o gyn-filwyr Prydeinig ymysg y rhai fydd wedi casglu ar y traeth, lle glaniodd llongau lluoedd Prydain 70 mlynedd yn ôl.

Mae'r gwasanaeth eleni yn coffau rôl y milwyr Prydeinig yn ystod cyrch D-Day.

Roedd 600 o filwyr o Gymru yn eu plith, i gyd yn aelodau o ail fataliwn Cyffinwyr De Cymru wnaeth lanio ar draeth Normandi.

Image copyright Reuters
Image caption Cyn filwyr ac arweinwyr yn ymgynnull yn eglwys Bayeux

'Braint'

Cyn y seremoni, dywedodd Carwyn Jones ei fod yn "fraint" cael cyfle i gyfarfod cyn-filwyr oedd wedi glanio ar draethau Ffrainc.

"Cyrch D-Day oedd cyrch bwysicaf y cynghreiriaid yn yr Ail Ryfel Byd ac mae'n addas bod gwledydd ar draws y byd yn Normandi heddiw i gofio dewrder, cryfder ac ewyllys y rheiny wnaeth gymryd rhan a newid cwrs ein hanes," meddai.

"Mae gwasanaethau coffa fel rhain yn sicrhau nad ydyn ni'n anghofio'r aberth gafodd ei wneud gan bobl arferol ar draws Cymru, ddaeth yn bobl eithriadol dan yr amgylchiadau.

"Mae'r rhyddid y gwnaethon nhw ymladd amdano yr un mor berthnasol ar ein cyfer ni heddiw, a dyna pam mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n pasio'r hanes yma ymlaen drwy'r cenedlaethau."

Image copyright PA
Image caption Awyrennau yn hedfan cyn y gwasanaeth coffa ym mynwent Bayeux
Image copyright Getty Images
Image caption Y Frenhines a Thywysog Cymru yn cofio'r rhai wnaeth farw
Image copyright Getty Images
Image caption Mae ryw 2,000 o gyn filwyr wedi mynd i Normandy ar gyfer y diwrnod
Image caption Carwyn Jones yn cyfarfod John Wintle, o Gaerffili oedd yn beiriannydd mecanyddol
Image caption Cafodd Ted Owens ei anafu yn yr ymladd ar draeth Normandi

Un Cymro oedd yn rhan o'r cyrch ar draeth Sword 70 mlynedd yn ôl yw Ted Owens o Ddoc Penfro.

Roedd yn aelod o'r Royal Marine Commandos yn ystod y cyrch, a chafodd ei anafu yn ddifrifol wrth ymladd.

Dywedodd nad oedd modd disgrifio'r sŵn ar y traeth lle cafodd ei anafu.

"Roeddwn i tu ôl un o'r tanciau oedd wedi cael ei saethu... A daeth bom drosodd a tharo'r tanc, reit uwchben fy mhen," meddai.

"A daeth y metal i gyd i lawr, roedd metal yn fy ysgwydd, fy nghefn a fy mrest. Roeddwn i wedi fy mharlysu, doeddwn i methu symud..."

'Emosiynol iawn'

Cafodd Mr Owens ei achub a'i gludo yn ôl i'r ysbyty yn Lloegr, lle fuodd am dros ddeufis yn gwella, cyn mynd yn ôl i ymladd yn Ewrop. Dywedodd y byddai'n cofio am ei ffrindiau nad oedd mor ffodus ag ef yn y rhyfel.

"Mae'n daith emosiynol iawn gan bod gymaint o fy ffrindiau yma. Pam ydw i yma ac nid nhw? Mae'n rhywbeth na fyddwn ni byth yn gwybod."

Ychwanegodd: "Rydw i'n dal i feddwl amdanyn nhw heddiw.

"Pan es i yn ôl at fy uned, wrth gwrs roedd llawer ohonyn nhw wedi mynd.

"Roeddwn i'n gofyn, 'Lle mae John? Lle mae Ally? Lle mae Taffy?' I gyd wedi mynd."

Straeon perthnasol