Torri person o gar wedi gwrthdrawiad

Mae un person wedi eu torri o gerbyd yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy nos Iau.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gar am tua 7:30yh, ar y B4245 Ffordd Caldicot, Llanfihangel Rogiet.

Cafodd criwiau'r Gwasanaeth Dan o Gas-gwent a Malpas eu galw, a chafodd offer torri eu defnyddio i ryddhau un person.

Roedd yr Heddlu a'r Ambiwlans ar y safle hefyd, ond nid oes mwy o fanylion am yr anafiadau.

Mae'r ffordd yn parhau i fod ar gau ar hyn o bryd.