Ysgol Bryn Tawe: prifathro ac aelod arall o staff yn ymddiswyddo

Graham Daniels
Image caption Ni fydd Graham Daniels yn dychwelyd i'w swydd

Mae prifathro ac aelod arall o staff Ysgol Bryn Tawe wedi ymddiswyddo yn ôl Cyngor Dinas Abertawe.

Cafodd y prifathro, Graham Daniels ac aelod arall o staff eu gwahardd o'u gwaith fis diwethaf wrth i ymchwiliad ddigwydd.

Roedd fideo wedi cael ei chyhoeddi ar y we oedd, mae'n ymddangos yn cynnwys synnau o natur rywiol.

Mae llefarydd ar ran yr ysgol wedi cadarnhau eu bod wedi ymddiswyddo ond ddim yn anghenrheidiol oherwydd yr ymchwiliad.