Côr newydd i ddathlu pen-blwydd cyfansoddwr

William Mathias Image copyright John Ross
Image caption Bydd bywyd y cyfansoddwr William Mathias yn cael ei ddathlu yn ystod gŵyl gerddorol

Mae apêl wedi cael ei lansio i ddod o hyd i gantorion i gôr newydd a fydd yn helpu i ddathlu bywyd a gwaith cyfansoddwr a'r ŵyl a sefydlodd.

Bydd cyngerdd i ddathlu 80 mlynedd ers geni William Mathias yn rhan o Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ym mis Medi.

Cafodd yr ŵyl ei sefydlu gan yr Athro Mathias yn 1972 a dewisodd gadeirlan Llanelwy fel cartref yr ŵyl gan ei fod yn credu mai yno oedd y safle gorau ar gyfer cerddoriaeth glasurol o ran sŵn.

Bydd y cyngerdd ar ddydd Mawrth 23 Medi yn cynnwys cerddoriaeth gan gyfansoddwyr a ysbrydolodd ef a'i gyfansoddiadau ei hun, gan gynnwys 'Let the people praise Thee, O God' a ysgrifennodd ar gyfer priodas frenhinol Tywysog a Thywysoges Cymru yn 1981.

Bydd y cyfansoddwr Paul Mealor, a oedd yn ddisgybl i William Mathias, yn arwain rhai o'i weithiau ei hun yn ystod y cyngerdd.

Dywedodd cyfarwyddwr artistig yr ŵyl, Ann Atkinson, ei bod wrth ei bodd y bydd y noson hefyd yn cynnwys cyfweliad gyda merch yr Athro Mathias, Rhiannon Mathias.

"Roedd William Mathias yn un o gyfansoddwyr mwyaf Cymru ac rwyf mor falch fy mod wedi cwrdd ag ef. Ysgrifennodd cymaint o gyfansoddiadau gwych," meddai.

"'Dw i'n siŵr y bydd gynulleidfa'r ŵyl yn flach o glywed ei ferch, Rhiannon, yn siarad am ei thad, ei gerddoriaeth a'i etifeddiaeth pan fydd yma fel rhan o'r cyngerdd pen-blwydd.

Image copyright EILEEN JACKSON
Image caption Mae Ann Atkinson yn apelio am gantorion i ymuno â chôr ar gyfer y gyngerdd arbennig

"Bydd yr ŵyl eleni yn dathlu'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a cherddoriaeth, ond i mi yr uchafbwynt fydd Cyngerdd William Mathias.

"Fel rhan o'r cyngerdd dwi ar hyn o bryd yn llunio côr a dwi'n awyddus i glywed gan ganwyr gwrywaidd a benywaidd.

"Mae hwn yn gyfle i bobl ifanc ymuno â chôr newydd a chyffrous a fydd yn perfformio ochr yn ochr â dau gôr arall yn ystod cyngerdd arbennig iawn."

Cafodd yr Athro Mathias, a fu farw yn 1992, ei eni yn Sir Gaerfyrddin.

Bu'n Athro yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor tan 1988 a bydd ei ferch, Dr Rhiannon Mathias, yn dilyn yn ôl troed ei thad gan y bydd yn darlithio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor o fis Medi.

Bydd Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn cael ei chynnal rhwng 20 - 27 Medi 2014.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.