Cwest: Airbus yn pledio'n euog

Donald Williams
Image caption Bu farw Donald Williams pan gafodd ei wasgu rhwng tractor a chynhwysydd

Mae cwmni Airbus wedi pledio'n euog i gyhuddiad iechyd a diogelwch yn dilyn marwolaeth gweithiwr ar eu safle.

Bu farw Donald Williams, 62 o Fwcle, wedi iddo dderbyn anaf i'w ben tra'n gweithio yn y safle ym Mrychdyn ym mis Tachwedd 2011.

Fe gafodd y cyhuddiad ei gyflwyno gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Ar ôl i'r cwmni bledio'n euog i beidio sicrhau iechyd a diogelwch eu gweithwyr, gan gynnwys Mr Williams, fe gafodd cyhuddiadau llai eu gollwng.

Mi fydd y ddedfryd yn cael ei rhoi yn Llys y Goron Caernarfon ar 17 Mehefin.

Cafodd cwest i farwolaeth Mr Williams ei gynnal yn Tachwedd 2013 a daeth y crwner i'r casgliad mai "anffawd" oedd yr achos.

Straeon perthnasol