Buddugoliaeth arall i Forgannwg

morgannwg Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Allenby a Rudolph wnaeth arwain y ffordd gyda'r bat.

Mae Morgannwg wedi trechu Gwlad yr Haf heno yn y gystadleuaeth 20 pelawd T20 Blast.

Fe gyfyngwyd y tîm cartref i 169 am 4 ar ôl i Forgannwg sgorio 176 am 3 yn eu 20 pelawd.

Sgoriodd James Allenby 96 i Forgannwg, a gyda chymorth 40 rhediad Jacobus Rudolph roedd Morgannwg yn rheoli'r gêm o'r cychwyn.

Fe gymerodd Graham Wagg 3 wiced i Forgannwg wrth i Wlad yr Haf gwblhau eu 20 pelawd 7 rhediad yn brin.

Doedd dim wiced heno i Darren Sammy, ac fe gyfrannodd e 3 rhediad yn unig gyda'r bat.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg wedi ennill tair o'u pedair gem T20 hyd yma.