Corff Pontardawe: Arestio tri

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth dyn 41 oed wedi arestio tri o bobl.

Mae dwy ddynes, 27 a 38 oed, a dyn 27 oed yn cael eu cadw yn y ddalfa.

Cafodd corff y dyn ei ddarganfod mewn fflat yn Stryd Herbert, Pontardawe yn oriau man y bore ar ddydd Sadwrn, Mehefin 7.

Mae Heddlu De Cymru'n awyddus i glywed gan unrhyw un allai fod â gwybodaeth am y digwyddiad.