Gyrfa Llawn Drama: Holi Meic Povey

Mae Meic Povey ymhlith ein dramodwyr amlycaf. Ei ddrama ddiweddaraf ydi Man Gwyn Man Draw, ei ddrama gomisiwn gyntaf erioed i BBC Radio Cymru.

Yr wythnos hon hefyd bydd addasiad o'i hunangofiant, Nesa Peth i Ddim, yn cael ei darllen ar Bore Cothi ar Radio Cymru.

Mi gafodd BBC Cymru Fyw sgwrs gyda Meic a'i holi am y datblygiadau ym myd y ddrama ers iddo ddechrau ei yrfa fel cynorthwy-ydd llwyfan efo Cwmni Theatr Cymru ar ddiwedd y 60au.

Image caption Meic Povey yn mwynhau ym myd y theatr

Sut ydych chi'n gweld cyflwr y ddrama Gymraeg erbyn hyn o'i gymharu â dyddiau cynnar eich gyrfa?

Hynod o iach a chysidro popeth, yn bennaf llawer llai o arian na fydda ar gael yn y 70au a'r 80au. Roedd drama ddiweddar Dafydd James - Fe Ddaw'r Byd i Ben - yn wirioneddol wych; felly hefyd ymdrech gyntaf Caryl Lewis, Y Negesydd. Gobeithio cawn weld mwy ganddi hi. Ac wrth gwrs, wastad yn llechu yn y cysgodion, yn barod i'n syfrdanu o'r newydd mae Aled Jones Williams.

Hefyd, mae penodiad Betsan Llwyd fel cyfarwyddwr artistig Theatr Bara Caws yn hynod o gyffrous. Wedi dweud hynny, roedd mwy o gwmnïau bach bum mlynedd ar hugain yn ôl - Dalier Sylw, Hwyl a Fflag, Gorllewin Morgannwg - ac felly roedd mwy o amrywiaeth. Ond ar y cyfan, i ddyfynnu Harold Macmillan, You've never had it so good. Mi 'dan ni'n wlad fach, pawb yn nabod 'i gilydd, pawb yn cwyno a bitshio. Weithiau, dylem werthfawrogi yr hyn sydd gyno ni.

Beth am y Theatr Genedlaethol?

Peth gwaetha' fedrwch chi dd'eud ydi: ew, roedd petha'n lot gwell erstalwm. Nag oeddan. Gwahanol oeddan nhw. Ers talwm, roedd ambell i beth yn vanilla, ambell i beth yn crap. Fel'a yn union mae hi heddiw. Ddyliech chi ddim cymharu y ddau gyfnod.

Roedd Wilbert Lloyd Roberts yn athrylith, roedd ganddo weledigaeth. Ond roedd gan Cefin Roberts weledigaeth, fel sydd gan Arwel Gruffydd hefyd. Ers sefydlu y Theatr Genedlaethol newydd, rydym wedi gweld cymysgfa amrywiol iawn o arlwy - peth ohono'n vanilla, peth ohono'n crap. Yr hyn sy'n fy nharo i - a dwi'n mynd yn fynych i'r theatr - ydi cymaint o bobol ifanc sydd wastad yn y gynulleidfa. Rwan, tydi'r gorffennol ddim yn bwysig iddyn nhw, toedd 'i hanner nhw heb eu geni. Heddiw, a 'fory sy'n bwysig.

Mi fydd canolfan gelfyddydau Pontio yn agor yn fuan ym Mangor. Beth hoffech chi ei weld yn digwydd yno i gefnogi'r ddrama Gymraeg?

Datblygu ac hyrwyddo hynny fedran nhw o waith gwreiddiol yn Gymraeg. Hynny ydi, dramau gwreiddiol; fel y dyla pob cwmni theatr arall wrth rheswm. Dyna ddylai fod y nod, ond mae'n dalcen caled ar y naw. Dywedir fod digon o dalent sgwennu (theatrig) yng Nghymru. Nagoes. Ymhob cenhedlaeth, dim ond llond het sydd i'w cael; eu hadnabod a'u meithrin yw'r gamp.

Rydych chi hefyd wedi sgriptio nifer o ddramau a ffimiau teledu gan gynnwys Sul y Blodau a Ryan a Ronnie, a chi oedd un o gyd-syfaenwyr Pobol y Cwm. Beth ydi'r newidiadau mwyaf rydych chi wedi sylwi arnyn nhw wrth i'r gyfres boblogaidd baratoi i ddathlu ei phenblwydd yn 40 oed?

Image caption Ai Ryan a Ronnie oedd y 'double-act' Cymraeg gorau erioed?

Roedd y Pobol Y Cwm cynnar yn wahanol iawn i'r hyn a welir heddiw. Pan euthom ein tri - John Hefin, Gwenlyn Parry a fi - i greu y gyfres wreiddiol, toedd dim sgwenwyr sebon i'w cael, heblaw am Gwenlyn ei hun. Y fi oedd ei brentis cynta'. Mi ddywedais yn rhywle o'r blaen, ond mi a'i dywedaf eto: y fo, yn anad neb ydi tad y ddrama deledu fodern Gymraeg, yn arbennig felly sebon.

Nofelwyr a dramodwyr theatr oedd ein hawduron gwreiddiol ni - Marion Eames, Gwyn D. Evans, Tom Richards, Harri Pritchard-Jones. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn anobeithiol am sgwennu deialog realistig, credadwy; treuliodd Gwenlyn a fi beth wmbreth o amser yn ail-sgwennu.

O ran y penodau, y gwahaniaeth mwyaf trawiadol ydi hyd y golygfeydd. Heddiw, mae golygfa sebon yn hir os ydi hi dros funud - mae eithriadau - ond ar y cychwyn toedd golygfeydd pum, chwe munud ddim yn anghyffredin. Mae tipyn o gwyno a rhincian dannedd rwan bod nhw'n pasa gwneud un bennod yn llai yn wythnosol - ond pwy a wyr, hwyrach y bydd hyn o les yn y tymor hir.

Mae eich wyneb yn gyfarwydd hefyd fel actor. Mae'n siŵr y bydd nifer fawr o ddarllenwyrBBC Cymru Fyw yn eich cofio fel DC Taff Jones yn Minder, un o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd yr 80au. Sut brofiad oedd hwnnw?

Image copyright Itv
Image caption Roedd DC Jones (Meic Povey) a DS Chisholm (Patrick Malahide) yn y gyfres Minder yn nechrau'r 80au

Be' fedra'i dd'eud? Wrth fy modd, ac yn hynod o falch o fod yn gysylltiedig â rhaglen oedd yn denu deunaw miliwn o wylwyr ar un adeg. Roedd y broses o'i wneud, o ffilmio yn union fel pob cynhyrchiad arall. Roeddwn yn eitha' profiadol o flaen camera erbyn i mi ddechrau ei wneud yn 1981. Beth oedd yn wahanol wrth gwrs oedd yr iaith - sef yr iaith fain wrth rheswm, yn bendant fy ail iaith o ran actio.

Pan rydych chi'n paratoi i eistedd tu ôl i'ch cyfrifiadur i ddechrau sgwennu drama newydd, ydych chi'n meddwl am rhyw bwynt penodol 'da chi eisiau ei ddweud?

Dim byd, dyna fyddai yn geisio ddweud. Os ydi unrhyw 'sgwennwr yn dechrau trwy feddwl: 'Dyma dwi'n mynd i 'ddweud' yn y ddrama nesa' waeth iddo fo, neu hi, roi'r ffidl yn y tô a mynd yn bostmon. Y stori sydd yn bwysig, stori gredadwy gyda dechrau, canol a diwedd; a chymeriadau, yr ydych yn malio amdanynt. Is-destun ddyla 'neges' fod wastad, nid rhywbeth bwriadol, ymwybodol.

Pa gyfrwng sydd orau ganddoch chi?

Fel 'sgwennwr, theatr; fel actor, ffilm.

Beth sy'n rhoi'r pleser mwyaf i chi - 'sgwennu, actio neugyfarwyddo?

Y tri yn foddhaol iawn yn eu tro - ond 'sgwennu sydd gletaf, o bell ffordd.

Beth fyddai eich cyngor chi i unrhyw un sydd eisiau gwneud eu bywoliaeth trwy 'sgwennu?

Image copyright Theatr genedlaethol
Image caption Gyda chynhyrchiadau diweddar fel Y Negesydd mae'r ddrama Gymraeg mewn cyflwr iach medd Meic Povey

Mae 'sgwennu yn broffesiynol yn waith caled iawn, iawn. Rhaid cael disgyblaeth a dyfalbarhad; rhaid bod wrthi bob dydd, hyd yn oed pan fo'r awen wedi cilio. O ran deunydd, mi ddeudwn ei bod hi'n holl bwysig - yn enwedig i sgwennwr ifanc - i ddechrau wrth ei draed; sgwennu am y cyfarwydd.

Man Gwyn Man Draw, BBC Radio Cymru, Dydd Sul 8 Mehefin 14:04 neu gwrandewch eto ar wefan Radio Cymru.